Saunders Lewis a Methodistiaeth Galfinaidd Yn Nhachwedd 1963 sgrifennodd Saunders Lewis at berthnasau iddo yn Amlwch, gorwyrion i William a Sarah Roberts, yn gofyn caniatâd i gyflwyno ei nofel Merch Gwern Hywel iddynt. Dyma sut y mae'n cloi'r llythyr: Gallaf roi fy ngair am un peth y mae'r nofel hon yn gwbl glir oddi wrth athrod ar neb ac mi fydd y Methodistiaid yn meddwl fy mod i wedi dyfod yn ôl yn gyfangwbl atynt. Nid dyna'r gwir. Nes i'r gwir ydy nad ydwyf i erioed wedi eu gadael. Mae peth smaldod Saundersaidd yna ond y mae peth gwirionedd hefyd. Carwn geisio dangos hynny yn hyn o lith. Nid ar chwarae bach y gallai Saunders Lewis, o bawb, ei ddiwreiddio'i hun o ddaear Methodistiaeth, hyd yn oed pe dymunai wneud hynny. Disgynnai o linach dywysogaidd yn Yr Hen Gorff, yn wyr i Owen Thomas a oedd yn fab-yng-nghyfraith i William Roberts, Amlwch, gwr a ordeiniwyd i bregethu yng Nghymdeithasfa'r Bala yn 1817 ac un a oedd, yn ei dro, yn gyfyrder i John Elias, un o Dadau diamheuol y Corff. Eithr y gwir yw, wrth gwrs, na fynnai ymwadu â'i dras, nac yn deuluol na chrefyddol. 'Roedd ganddo barch dwfn at Ymneilltuaeth Gymraeg yn gyffredinol a rhoes fynegiant grymus i hyn mewn ysgrif yn Y Faner (Ebrill 25, 1951) wrth bwyso ar arweinwyr Ymneilltuol i wrthwynebu rhoi addysg grefyddol i Gymry Cymraeg yn Saesneg yn yr ysgolion dyddiol: Er pan ddeuthum i i'r Eglwys Gatholig ni ddywedais i air, hyd y cofiaf ac felly y gobeithiaf i ddifrïo Ymneilltuaeth Gymraeg.