Dafydd ap Gwilym: cywyddwr cynnar* O holl feirdd Cymraeg yr Oesoedd Canol, Dafydd ap Gwilym yw'r un y medrwn ni fel pobl ifanc glosio ato. Yn ei gwmni ef rywsut y mae trwch y gynulleidfa gyfoes sy'n darllen barddoniaeth Gymraeg cyn cyfnod William Williams Pantycelyn yn teimlo hapusaf. Un rheswm dros y diddordeb hwn yn sicr yw mai serch yw prif bwnc y bardd, pwnc sydd wrth fodd a chalon pawb ohonom ni bobl ifanc. Ac y mae lle cryf i gredu hefyd mai pobl ifanc, yn ferched a bechgyn, a ymddiddorai fwyaf yn y canu serch yn y bedwaredd ganrif ar ddeg.1 'Roedd yn bwnc poblogaidd, yr un mor boblogaidd ar ryw ystyr ag yw serch yng nghaneuon pop y dwthwn hwn. Archwilio'r teimlad a'r berthynas rhwng mab a merch yn ei amryfal brofiadau melys a chwerw a wna Dafydd ap Gwilym yn ei gerddi serch. Rheswm arall pam yr ydym yn cymryd at waith Dafydd ap Gwilym yw fod nod personoliaeth y bardd ei hun ar y farddoniaeth. Ni all y rhai hynny sydd wedi darllen y cywydd 'Trafferth Mewn Tafarn', er enghraifft, ddim peidio â theimlo eu bod ym mhresenoldeb unigolyn a chanddo bersonoliaeth liwgar a deniadol. Oherwydd dyna yw'r pwynt allweddol, sôn am ei brofiadau ef ei hun y mae, boed y rheini'n rhai go-iawn neu'n gynnyrch ei ddychymyg. Efô yw'r prif gymeriad yn y rhan fwyaf o'i gerddi, ac y mae cael bardd canoloesol yn ei wneud ei hun yn brif destun ei farddoniaeth yn beth eithriadol. Nid oedd yn arferiad gan feirdd llys mewn unrhyw wlad gyfansoddi cerddi a oedd yn mynegi eu teimlad personol. Yn amlach na pheidio, mynegi teimladau ei gymdeithas a wnâi bardd llys drwy ganu mawl a marwnad i arweinwyr cymdeithas yn unol â delfrydau'r gymdeithas honno. Gan fod stamp personoliaeth Dafydd ap Gwilym yn ddiamheuol ar ei waith, y mae modd i ni nesáu ato ac ymserchu *Traddodwyd y ddarlith hon yn yr Ysgol Undydd i Fyfyrwyr Chweched Dosbarth a drefnwyd gan Adran y Gymraeg, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, 20 Chwefror, 1991.