Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Pe gofynnid i mi beth yw'r ddau lygedyn mwyaf gobeithiol ym mywyd Cymru heddiw, mi ddywedwn mai'r ysgolion Cymraeg a'r Cymdeithasau Llyfrau. Y mae'r Ysgolion yn amcanu cael cen- hedlaeth arall i siarad Cymraeg, a'r Cymdeithasau yn amcanu cael pobl i ddarllen yr iaith, ac y mae'r ddeubeth hyn yn anhepgor i ffyniant cenedl. I Gymry Llundain y mae'r clod a chlod go fawr ydyw am sefydlu'r Gymdeithas Lyfrau gyntaf. Llawenydd calon yw fod ynddi erbyn hyn dros 500 o aelodau Bu'r llythyr hwnnw i'r Ddinas yn dyngedfennol ym mywyd ei awdur hefyd. Ef a fu'n gyfrifol yn y pen draw am arwain yr awdur o fyd trydan i fyd llyfrau, o Lundain i Landybïe i ofalu am Lyfrau'r Dryw, a Chyfres y Glöyn Byw, ac i'w gysylltiad â Barn ac yn ddiwedd- arach â'r Genhinen, ac ers 1978 â Gwasg Gee. Aeth y llith hon yn feithach nag yr arfaethais, ond nid yn feithach nag y teilynga'r llyfr a'r awdur a'i symbylodd. Terfynaf drwy longyfarch Mr. Emlyn Evans yn ddiffuant ac yn galonnog ar ei lyfr ond yn bennaf oll am ei gyfraniad enfawr i'n diwylliant cenedlaethol ie, ac ar fedru cyfrannu mor helaeth a byw bywyd mor gyfoethog yn y diwylliant hwnnw. J. E. CAERWYN WILLIAMS