Capel a Chomin Mae'r llyfr hwn* yn haeddu croeso am fwy nag un rheswm. Yn gyntaf am ei fod yn llyfr Cymraeg arall o ysgrifbin ysgolhaig a enillodd enw nid bychan iddo'i hun am ei waith yn y Saesneg, cyn mentro sgrifennu dim yn Gymraeg. Yn ail, am ei fod yn llyfr o feirniadaeth lenyddol ar ddarn o'n traddodiad rhyddiaith, traddodiad y tueddir i'w anwybyddu o'i gyferbynnu â'n traddodiad barddoniaeth. Yn drydydd ac efallai'n bennaf, am ei fod yn gampwaith o feirniadaeth ar gynnyrch sydd o ddiddordeb mawr i haneswyr Cymru Ddiweddar ac yn arbennig i haneswyr ei chrefydd a'i diwylliant. Mae'r is-deitl, 'Astudiaeth o ffugchwedlau pedwar llenor Fictor- aidd', yn fwy dadlennol na'r teitl Capel a Chomin. Y pedwar llenor hynny yw Edward Matthews (neu Matthews Ewenni), Roger Edwards, Yr Wyddgrug, William Rees (neu Gwilym Hiraethog) a Daniel Owen, y pedwar wedi eu rhestru o ran trefn datblygiad ffuglen gynnar y Gymraeg fel yr ymddengys i'r awdur, Mr. Ioan Williams, ac yn sicr wedi eu rhestru'n groes i drefn graddau ein hadnabyddiaeth a'n cydnabyddiaeth ni, Gymry, ohonynt fel llenorion. Yr oeddynt i raddau helaeth yn gydoeswyr. Gwilym Hiraethog a anwyd ym 1802, ef a fu farw gyntaf (1883). Daniel Owen fu farw olaf (1895), ryw ddwy flynedd ar ôl Matthews, naw ar ôl Roger Edwards a deuddeg ar ôl Gwilym Hiraethog. Pregethwyr oedd y tri chyntaf yn bennaf, llenor- ion yn ail. Teiliwr oedd Daniel Owen ond yr oedd yn fwy o lenor na'r lleill, yn wir yn ddigon o lenor i'w ddisgrifio fel 'nofelydd' yn Y Bywgraffiadur Cymreig, ond nid yw'n ddibwys ei fod yntau wedi bod yn ddarpar-weinidog ac wedi bod yn pregethu am flynyddoedd. Bydd yn syn gan rai weled Matthews Ewenni'n cael sylw beirniadol fel llenor, ond ni buasai'n syn gan ei gyfoeswyr. Yn ei ddyddiau 'roedd yn awdur o fri, a'i lyfrau Hanes Siencyn Penhydd (1850) a George Ioan Williams, Capel a Chomin. Astudiaeth o ffugchwedlau pedwar llenor Fictoraidd (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1989).