Bywyd marwnad: Marwnad Lleucu Llwyd Nid oes gan farwolaeth hawl ar ferch brydferth, ac nid hawliau absoliwt mo hawliau'r bedd. Dyma'r argyhoeddiad sy'n cystadlu ben- ben â realiti terfynol marwolaeth ym marwnad Lleucu Llwyd. Pwy a gaiff y gair olaf bywyd ynteu'r bedd? yw'r cwestiwn sydd wrth wraidd holl emosiwn y gerdd. Mae'r ferch yn y fantol. Cerdd yw hon sy'n dewis gweld Lleucu fel rhywbeth amgenach na merch fud marwnad draddodiadol, a cheir yma ddymuniad i atgyfodi Lleucu, drwy rym emosiynau a phrofiadau bywyd, mewn byd o amser. 'But I am by her death (which word wrongs her)/Of the first nothing, the elixir grown'1: i'r Cristion John Donne, mae'r gair marwolaeth ei hun yn sarhad i'r wraig a fu farw ond sydd 'nawr yn byw'n dragwyddol. Yn yr un modd, mae Llywelyn yn ffyddiog bod yna fywyd i'w gariad y tu hwnt i farwolaeth (ac mae ei ffydd yn yr Atgyfodiad yn amlwg yn y cyfeiriad at 'fynydd Olifer'), ond mae bryd y bardd ar alw Lleucu yn ôl ar draws yr Iorddonen i fyd y byw. Mae'r gerdd yn gwrthod derbyn ei marwolaeth heb hawlio mwy mwy o egni, mwy o obaith a bywyd oddi wrth gonfensiynau'r farwnad. Mae hyn, wrth gwrs, yn nodweddu llu o farwnadau mewn amryw ieithoedd, ond yng ngherdd Llywelyn Goch, soffistigedig a beiddgar yw'r dymuniad i ragori ar y farwnad draddodiadol. 'Rwyf am ddelio â'r gerdd, felly, fel galargan sy'n glynu wrth fywyd ac yn arddel egni bywyd fel gwrthbwynt i bwysau llethol marwnad nad yw ond yn cau 'derw brennol' Lleucu yn dynnach fyth. Mae'r cwestiwn hwn parthed bywyd a marwolaeth un sy'n ymwneud â natur sylfaenol y farwnad a'r confensiynau y tu ôl iddi yn un problematig o'r cychwyn cyntaf. Mae'r gerdd yn sicr yn ymddangos fel pe bai'n farwnad does dim dwywaith am hynny — ond dylai rhai o gonfensiynau barddol yr oes ein hatgoffa nad oes raid