Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Feirniadaeth Lenyddol Ddiweddar Mae'r gyfrol hon yn arwydd pellach o'r deffro a ddigwyddodd ymhlith ein hysgolheigion ieuainc i sialens y feirniadaeth lenyddol ddiweddar neu'n hytrach i'r gwahanol fathau ohoni a arferir yn Lloegr, Ffrainc a'r Almaen heb sôn am wledydd eraill Ewrop a thu hwnt.* Fe'm cystwywyd unwaith am fentro dweud nad oedd yr Athro W. J. Gruffydd, ddim mwy na Syr John Morris-Jones, wedi gwneud nemor i hyrwyddo beirniadaeth lenyddol fel disgyblaeth yng Nghymru. Mae'n wir i Syr John geisio trafod sylfeini barddoneg yn y rhan gyntaf o'i glasur Cerdd Dafod, a'i fod wedi apelio at awdurdod neb llai nag Aristoteles, ond gellid barnu oddi wrth yr hyn a ysgrifennodd nad oedd angen gwneud mwy na hynny, ac nid oes angen mwy na bwrw golwg dros Yr Hen Ganrif (gol. Bobi Jones, 1991) sy'n cynnwys beirniadaeth lenyddol W. J. Gruffydd ar beth o lenyddiaeth y ganrif ddiwethaf, i sylweddoli nad oedd beirniadaeth lenyddol iddo ef ond ffrwyth gwybodaeth yr ysgolhaig a chynneddf reddfol y llenor. Peidied neb â'm camgymryd. 'Rwyf yn edmygu gwaith y ddau, ond yr oeddent yn blant eu cyfnod, ac nid oedd beirniadaeth lenyddol wedi ennill iddi ei hun yn eu hoes hwy y lle sydd iddi'n awr fel disgyblaeth ar wahân ac arbennig. Un o'r rhesymau pam yr enillodd ei safle newydd ydyw fod ein holl syniadau am iaith, ei natur, ei swyddogaeth a'i lle sylfaenol yn ein diwylliant wedi eu chwyldroi yn ystod y ganrif hon. Cyfeiria Jane Aaron, un o'r cyfranwyr i'r gyfrol hon, at ddylanwad yr ieithydd Ferdinand de Saussure a'i lyfr Cours de Hnguistique générale yn y chwyldro hwn, ac nid heb reswm da, oblegid mae'r chwyldro yn ein syniadau am iaith wedi dwyn ffrwyth nid yn unig yn ein syniadau am lenyddiaeth eithr hefyd yn ein syniadau am athroniaeth, am grefydd, ac am ddiwylliant yn gyffredinol. John Rowlands, Sglefrio ar Eiriau (Gwasg Gomer, 1992), tt.174, [7.55.