Athroniaeth Cosb ac Athrawiaeth yr Iawn I 'For Manslaughter in a combat, Patteson, J., once inflicted merely a fine of a shilling.' Nodyn godre yn y llyfr y dechreuais ddysgu Cyfraith Trosedd oddi wrtho yw'r frawddeg,1 ac fe wna destun da i'r bregeth sydd gennyf, gan ei bod yn goleuo'n gryno wirionedd am y gyfraith fel y gwelir hi gan wyr y grefft. Â'r gosodiad ffeithiol yna gellir cyferbynnu'r hyn a glywais o'r pulpud yng nghyfnod Gorfodaeth Filwrol, mewn sylw ar ddefryd a roesai mainc ynadon arbennig ar wr ieuanc am wrthod archwiliad meddygol. Soniasai cadeirydd y fainc am gymeriad dilychwin y gwr ieuanc a'i argyhoeddiad cydwybodol ar fater gwasanaeth milwrol; ond gosododd arno'r gosb fwyaf a ganiatâi'r Ddeddf. A dyna Gyfraith a Chyfiawnder, meddai'r pregethwr: nid oedd dan y Gyfraith Ie i Drugaredd, ond rhaid oedd cosbi. Ond yn ffodus i'r heddychwr ieuanc, yr oedd ganddo apêl yn erbyn y ddedfryd, a'r apêl yn mynd at Recordor y dref, bargyfreithiwr a fyddai'n ddiweddarach yn llanw swyddi uchel iawn yn y gyfraith. Gwyddai hwnnw, fel y barnwr Patteson ganrif ynghynt, nad oedd rheidrwydd arno i gosbi, ac yn sicr nad oedd rheidrwydd i roi'r gosb fwyaf; a lliniarwyd ar y gosb. Dedfrydwyd y gwr ieuanc i garchar am dri mis; ac 'roedd hynny'n rhoi iddo'r hawl i ail wrandawiad gan Dribiwnlys. 'Roedd gan y rhai a oedd yn gweinyddu'r gyfraith syniad gwahanol am y gyfraith i'r pregethwr hwnnw; a syniad gwahanol i eiddo rhyw ynades o Went, a ymddiswyddodd o'i hyneidiaeth am i rai ynadon Cymroaidd ymatal rhag cosbi rhai o'r Cymry a ballodd godi trwydded deledu. Dyma'r Cymry hynny wedi cael dianc yn rhydd, meddai hi, ond petai gweddw dlawd yn dod ger ei bron hi am fod heb drwydded