Rhyddid Ewyllys Fe ofynnwyd i rywun a fyddai'n barod i fynd gyda Deio i Dywyn. Digon tebyg fod gan y gwr bethau eraill i'w gwneud, a galwadau a diddordebau eraill, efallai. Bu'n hir yn mesur ac yn pwyso beth a fyddai orau i'w wneud, mynd ai peidio. Ond o'r diwedd fe ben- derfynodd fynd. Dyma enghraifft wych yn ôl pob golwg o ddyn yn defnyddio ei ryddid ewyllys i ddewis rhwng dau beth mynd neu beidio â mynd. Mater iddo ef oedd penderfynu. Nid oedd neb yn ei orfodi nac yn ei rwystro. Nid gorchymyn iddo fynd a wnaeth Mr. Jones o'r Brithdir, dim ond gofyn iddo fynd. Fe gafodd amser i feddwl dros y peth fel y gallai wneud y dewis iawn yn ôl ei ewyllys ef ei hun, ac ef ei hun a ddewisodd fynd yn y diwedd. Fe allai fod wedi dewis peidio â mynd. Fe dybiwn yn gyffredin fod gennym i gyd ryddid ewyllys, a'n bod yn arfer y rhyddid hwnnw lawer gwaith drosodd yn ystod ein bywyd beunyddiol, gan ddewis gwneud y peth yma neu'r peth acw yn ôl ein barn a'n dymuniad ni ein hun. Y mae yna derfynau ar ein rhyddid, wrth gwrs; y mae rhai pethau yn amhosibl i ni eu cyflawni, ac weithiau fe gyfyngir ar y pethau sydd yn bosibl i ni drwy ein rhwystro yn gyfan gwbl, drwy fygwth cosb ac felly yn y blaen. Ond a siarad yn gyffredinol y mae gennym ddewis eang ynglyn â'r gweith- redoedd yr ydym am eu cyflawni neu am ymatal rhag eu cyflawni. A sylwch nad rhagdybio ein bod yn rhydd yn unig a wnawn; fe weithredwn ar y dybiaeth honno yn barhaus. O bryd i'w gilydd fe fyddwn yn beio dyn am ryw weithred neu'i gilydd, ac y mae hynny'n rhagdybio fod gan y dyn hwnnw ddewis yn y mater, ac y gallai fod wedi gweithredu yn wahanol. A thrachefn, os byddwn yn canmol rhywun am yr hyn a wnaeth fe ragdybiwn eto fod y weithred yn gynnyrch ewyllys rydd y person. Pa ddiolch sydd i ddyn am wneud yr hyn y cafodd ei orfodi i'w wneud? Felly, y mae'r holl arfer o ganmol a chondemnio, o wobrwyo a