Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yr Athro Emeritus D. E. Parry Williams yn 90 oed Yn ystod yr haf eleni (1990) fe ddathlodd yr Athro D. E. Parry Williams ei ben-blwydd yn ddeg a phedwar ugain oed. Y cof cyntaf sydd gennyf amdano yw ei weld yn cerdded ar hyd coridorau Coleg y Brifysgol, Caerdydd, a rhyw olwg freuddwydiol bell arno, ac fe ddaethom ni'r myfyrwyr yn gynefin â'i weld wedyn yn aelod o gôr y coleg. Yr oedd bob amser yn mynychu'r cyngherddau wythnosol, ac yn ysgrifennu amdanynt i'r wasg. Darlithydd yn y coleg ydoedd, ar y pryd, a chemeg oedd ei bwnc, ond yr oeddem i gyd yn rhyw deimlo mai darlithydd yn adran gerdd y coleg y dylai fod. Yr oedd y rhai ohonom a fagwyd yn ninas Caerdydd yn gwybod amdano fel organydd capel Presbyteraidd Cymraeg Pembroke Terrace, lle y bu'r Athro David Evans yn organydd o'i flaen. Yr oedd hi'n amlwg i ni'r myfyrwyr, o'r cychwyn cyntaf, fod yr Athro David Evans, Pennaeth adran gerdd y coleg, yn meddwl y byd o'r Dr. Parry Williams, ac yn dibynnu llawer arno. Gallaf ei glywed yn awr yn ei gyfarch Parry, my boy ac yn dilyn y cyfarchiad, fe fyddai cais am rywbeth neu'i gilydd. Yr oeddem yn teimlo y buasai'r Athro David Evans wedi hoffi ei gael ar staff yr adran gerdd. Wedi'r cyfan yr oedd ganddo radd mewn cerddoriaeth yn ogystal â chemeg. Pan ymadewais â Chaerdydd i briodi, a dod i Fangor i fyw, darganfûm yn fuan nad oedd gweithgareddau adran gerdd Coleg Bangor i'w cymharu â'r hyn a gafwyd yng Nghaerdydd. E. T. Davies oedd y pennaeth ac yr oedd triawd offerynnol y coleg yn cymryd rhan yn y cyngherddau, ac yn chwarae hefyd yn yr ysgolion yng Ngogledd Cymru. Nid oedd yma gadair gerddoriaeth, fel yng Nghaerdydd, na chwrs gradd yn y pwnc. Pan ymddeolodd E. T. Davies, penodwyd D. E. Parry Williams yn olynydd iddo, a mawr oedd llawenydd Cymry'r coleg. Cafodd yr Athro David Evans, felly, wireddu ei freuddwyd o weld Parry Williams yn bennaeth adran gerdd mewn coleg prifysgol. Ychydig o flynyddoedd ar ôl imi ddod i Fangor i fyw,