tref fechan a thref, ac ar honno sydd rhwng tref a dinas hefyd. Canys mewn tref wladaidd fe geir rhai elfennau'r lleill i gyd. Bydd ambell elfen yn ffaith oesol megis yr afallennau yn eich gardd, neu fel gwynt y gorllewin yn dyfod â sawr rhedyn y bryniau i'r heolydd culion. Bydd rhai eraill yn ymwthiadau diweddar fel y gainc o'r rheilffordd o drefi'r dwyrain, a bydd rhai eraill eto yn oferedd ysbrydol o hirbell megis yr Ysbryd Dinesig. Bydd llawer o bobl yn cefnu ar le o'r fath cyn gynted ag y bo modd, ac yn cyrchu'r amgylchfyd y cawsant flas ar gymaint ohono a oedd wedi treiglo i'r dref neu wedi aros ynddi. Eithr onid gwych yw'r lle a all awgrymu i'w drigolion gyfoethoced yr amrywiaeth sydd o fydoedd ac o fywyd? Y mae Ffransis Payne ei hun yn feicrocosm o natur gymhleth y ffin. Cymro Cymraeg o Stryd yr Eglwys, Caerdydd, oedd ei dad; merch o Bromfield, ger Llwydlo, sir Amwythig, oedd ei fam, a gwreiddiau teulu ei thad ym mhlwyf Pencraig (Old Radnor). Ar ôl derbyn prentisiaeth dilledydd yn siop Ben Evans, Abertawe, a phriodi, fe agorodd y tad ei fusnes ei hun yn yr Ystrywaid (The Struet), Aberhonddu. Ond fe'i cynghorwyd er lles ei iechyd i symud i'r Gelli, lle bu'r teulu hyd 1898 cyn ymgartrefu yng Ngheintun. Cadwent siop ddillad ar waelod y Stryd Fawr6 adeilad o'r unfed ganrif ar bymtheg a ddisgrifiwyd yn yr ysgrif 'Noddfa'. Hen dy uchel a thywyll ydoedd, meddai, yn dy od, 'un o'r tai hynny sy'n hyfrydwch i blant ac yn flinder i seiri eirch.' Traean o hen westy'r Swan oedd y ty, gyda chwrt yn y cefn, ac oriel a stablau. I'r fan hon, yn ôl y traddodiad, y deuai rhai o'r actorion crwydrol gynt, fel y deuai mintai Ward o Aberhonddu, a Kemble a'i ferch, Sarah Siddons, i berfformio mewn mannau eraill yn y dref. Cynigiai'r ty, fel y dref hithau, olwg ar fwy nag un math o fywyd:7 Yno yr oedd ystafell wely a edrychai draw tua'r de dros doeau is y dref. Oddi yno y gellid gweld Coed Penrhos yn ymlusgo ar hyd y gorwel tonnog fel lindys glas. Gellid gweld y gwartheg yn pori yn y caeau lle dôi ein llaeth ac ymenyn. Deuai'r gwynt â'u brefu ar ei frig. O gwmpas y ffermdy acw gellid gweld coed afalau, ac ar yr un pryd, ac ar adlif yr un gwynt, gellid blasu arogleuon eu ffrwythau a oedd ar gadw yn ein nennawr. Gyda'r nos, a'r golygfeydd wedi cilio, llenwid yr ystafell â swn afon Arwy yn sisial rhwng ei cherrig a suon yr helyg a'r llwyf ar ei glannau. Yr oedd yr ystafell hon megis rhan o'r awyr agored, a'r wlad yn ymestyn hyd ati tros doeau'r dref I fyny yn y llofft uchaf ni ellid ymddidoli oddi wrth y tir ffrwythlon lle cafwyd esgyrn a chnawd a chroen y ty: i lawr yn y rhannau isaf ni ellid ymryddhau o olyniaeth y gwyr meirw a roes lun ac ystyr iddo. Dyn a'r tir yng ngwead ei fod, yr oedd y ty yn symbol o'r ddau begwn hwn y trôi ein bywyd beunyddiol rhyngddynt. Yn ei ysgrifau a'i gyfrolau taith, cawn ddisgrifiadau cyfoethog (a ddwg i gof nofelau Thomas Hardy) o fwrlwm Ceintun ar ddechrau'r ganrif: y dref farchnad brysur, 'dwy fíl o bobl a'u dillad a'u cwn a'u cathod'.8 y caneuon a glywid yn y ffair, y ffidler o Weblai, y llyncwyr tân a'r bandiau-un-dyn, a phathos y chwaryddion crwydrol: 'yn henaidd, a'u hysbrydoliaeth wedi