Diffinio'r Ffin: Ffransis Payne O ddilyn trefn yr wyddor, fe ddylai ei enw ymddangos yn Llyfryddiaeth Llenyddiaeth Gymraeg rhwng T. H. Parry-Williams ac Iorwerth Peate, ac, yn wir, dyna'i Ie priodol ar sawl cyfrif arall. Ond ofer chwilio yno am restr o erthyglau neu adolygiadau ar ei waith. Eto, pan ymddangosodd ei gyfrol gyntaf yn 1943, fe gafodd groeso ecstatig gan Saunders Lewis, a'i hadolygodd yn Y Faner dan y pennawd 'Clasur Newydd i'n Hiaith':l Dyma lenor yn wir. Fe ddowch chwithau, bob un ohonoch sy'n adnabod blas llenyddiaeth gain, i'r un ddedfryd cyn ichwi orffen trydydd paragraff y llyfr hwn canys llenor gwir Gymreig yw ef, llenor o'r math Cymreiciaf a gorau. Un yw ef, fel D. J. Williams a Parry-Williams a W. J. Gruffydd a Kate Roberts, sy ganddo ei 'filltir sgwâr' ei hunan, ei fro a'i bobl a'i atgofion yn dreftadaeth ac yn gyfoeth Dwg i'n llenyddiaeth ni wybodaeth a diddordebau amheuthun, ie, a phrofiad amlochrog a helaeth, meddwl annibynnol a diddordebau newydd, safbwynt artist o edrych ar fywyd a'i farnu. A chan ddefnyddio un o'r trosiadau nodweddiadol hynny sy'n gyfuniad anesmwyth o'r sagrafennol a'r bibulous, mae'r adolygydd yn mynd rhagddo i ddweud: Y mae ei lyfr i mi fel rhyw hen win aeddfed y bydd dyn yn ei sipian yn araf ac yn ystyriol, mewn cwmni tawel a choeth, noson o aeaf, megis potelaid o Cockburn 1912. Disgrifiodd W. J. Gruffydd y blas a gafodd yntau:2 Nid wyf yn gwybod am neb yn ysgrifennu yn y Gymraeg sydd â chymaint o afiaith ac o gyfoeth yn ei waith Ar ei thyfiant y mae celfyddyd yr ysgrif yng Nghymru, ac os ceir dilynwyr teilwng ohono ef a Mr. Parry-Williams, gellir disgwyl gweled yr ysgrif cyn hir yn brif addurn ein rhyddiaith. Y gwr a ysgogodd y fath ganmoliaeth afradlon gan ddau o feirniaid llen mwyaf dylanwadol y dydd oedd Ffransis George Payne. Un o blant y ffin ydyw. Fe'i ganed yn 1900 yn nhref Ceintun, swydd Henffordd, ryw ddwy filltir y tu draw i'r hen sir Faesyfed, ond yr ochr hon i Glawdd Offa. Nid rhywbeth diamwys a phendant yw'r syniad o glawdd terfyn yn yr ardal hon, meddai, am fod enwau Cymraeg ar leoedd ac afonydd ymhell y tu hwnt i'r ffin bresennol, ac am fod rhannau blasus o sir Faesyfed, yn eu tro, wedi'u llyncu gan esgobaeth Henffordd.3 Dyma'r ardal lle mae tywodfaen coch y gwastatir yn cwrdd â'r hen greigiau Silwraidd, a mwd coch y naill dro a mwd llwyd dro arall yn rhan o brofiad beunyddiol y plant, y ffermwyr, a'r torwyr beddau.4 Adlewyrchid deuoliaethau pellach gan dref Ceintun:5 Canys mewn tref fel ein tref ni, ni byddwch yn byw ar y ffin, ond ar ffiniau lawer. Nid ar y ffin rhwng tref fechan a'r wlad yn unig; ond ar y ffin rhwng