Sleifio i mewn i'r ddarlithfa yn ddosbarth o un dan bwysau'r 'flwyddyn olaf a'i gael yr athro hyfwyn yn syllu, syllu, syllu tua Bae Ceredigion, y gorwel a'r entrych glas â'i lygaid yn fân gan fyfyrdod. Minnau, rhag ei darfu yn ymwthio i ddesg mor llonydd â delw. Efallai, meddwn, ei fod yn yr afael ag un o broblemau anesgor Athroniaeth neu'n disgwyl gwawr ar un o bynciau caddugol Diwinyddiaeth?: Y Logos, 'Mysterium Tremendum' Otto, Y Ddwy-Natur, Pechod neu Ryddid Ewyllys. Toc, o'm canfod, troi ei wyneb heulog tuag ataf: 'Fachgen, meddwl o'n i be' sy ar droed yn Llanddoged heddiw? Plannu tatws, 'debyg'. Er addysg brifysgol a'i alw i gadair coleg a blynyddoedd o gynnull i ydlan ei ysgolheictod a Darlith Davies ac esboniad i'w glod nid ymwadodd â'i wreiddiau: Gwladwr efô i'r diwedd, acen. gwladwr o wr bonheddig a'i enw'n olud yn y cof. ATGOF AM HEN ATHRO (Dafydd Morris Jones, Aberystwyth) ei fore cyffredin, ei Gymreigrwydd, ei naturioldeb, ei fonedd John Edward Williams