Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y mae datganiadau o'r fath yn peri i ddyn foeli clustiau'r meddwl. Wrth reswm, nid oes angen cytuno â phob un ohonynt. 'Ni wn am gân o'i eiddo sy'n tystio i gymundeb dwys rhyngddo a Natur'. Fe faentumiwn i fod 'Nant y Mynydd' ac ambell gân arall, yn esiamplau llwyddiannus o'r cymundeb hwnnw. A gellir dadlau, mi gredaf, fod 'Aros a Mynd' yn ddiweddglo cadarn i 'Alun Mabon' er a ddywed Hywel Teifi i'r gwrthwyneb. Mynnai Ceiriog gredu fod yr iaith y canai ynddi, yr alawon y canai arnynt a'r breuddwydion a weai fel bardd y teulu Victoraidd, yn sicr o oroesi. Mynnai gredu hynny er gwaethaf y cyfnewidiadau lu yr oedd ef ei hun fel dyn a phenteulu a phrydydd yn plygu iddynt. Fel y dywedir yma, gallai Ceiriog 'ymglywed â'r gofid a gurai' dan wyneb hyder ei gyd-Gymry a dichon ei fod yn profi'r gofid cyfoes yn ddyfnach na neb. Y mae llawer o ymateb Ceiriog i'r gofid hwnnw'n arwynebol ac yn annheilwng. Y mae peth ohono'n gwireddu'r gobaith a fynegwyd yn 'Aros a Mynd'. E. G. MILLWARD R. GERAINT GRUFFYDD, Dafydd ap Gwilym, Llên y Llenor, Gwasg Pantycelyn, Caernarfon, 1987, tt.1-54. Dyma, mi gredaf, y seithfed gyfrol yng nghyfres 'Llên y Llenor' a lansiwyd ym 1983 o dan olygyddiaeth yr Athro J. E. Caerwyn Williams. Bu'r gyfres yn llwyddiant digamsyniol o ran nifer y cyfrolau y llwyddwyd i'w cyhoeddi a'u safon gyffredinol. Y mae'r gyfres yn gymar Cymraeg mwy na theilwng i'r gyfres Saesneg 'Writers of Wales' a'u rhagflaenodd. Fe wynebwyd yr Athro R. Geraint Gruffydd, awdur y llyfryn diweddaraf yn y gyfres, â thasg anodd. O fewn terfynau cymharol gyfyng llyfrynnau'r gyfres gorchwyl ingol, mi dybiwn i, fyddai ceisio gwneud cyfiawnder â bardd mor amlweddog a chyfoethog ei ganu â Dafydd ap Gwilym. Yn fy marn i, fe lwyddodd yr Athro yn gampus i gyfleu'r hanfodion (a llawer mwy na hynny) er gwaethaf y cyfyngiadau arno. Cofier hefyd fod Dafydd a'i ganu bellach yn destun toreth o drafod ysgolheigaidd a beirniadol: er ei fod, heb unrhyw amheuaeth, yn fardd digon mawr i gynnal yr astudio helaeth hwn a fu ar ei waith, nid yw bodolaeth y fath gruglwyth o ysgolheictod a beirniadaeth yn rhwyddhau ffordd y sawl a fyn draethu arno o'r newydd. Hawdd iawn i awdur fyddai cael ei lethu ganddo a methu â thorri ei gwys ei hun. Ni ddigwyddodd hynny yn yr achos hwn. Er bod y gyfrol yn tystio i gynefindra manwl yr awdur â llyfryddiaeth helaeth ei bwnc, fe geir ynddi hefyd nodweddion unigolyddol gwerthfawr sy'n rhoi ffresni i'r ymdriniaeth ac yn ysgogi'r meddwl. Wrth sôn am ganu beirdd yr uchelwyr fe ddywedodd Saunders Lewis unwaith fod 'awyrgylch y canu yn llunio gwlad wahanol i'n Cymru ni, er mai'r un yw'r iaith'. Wrth geisio cyflwyno gwaith y beirdd hyn i'r 'darllenydd cyffredin' cyfoes hanfodol yw ceisio cyfleu rhywfaint o gyd-destun hanesyddol a chymdeithasol dieithr y canu. Y mae hyn yn wir am hyd yn oed Ddafydd ap Gwilym, er ei fod ef, yn rhinwedd ei athrylith a mater arbennig ei gerdd, rywfaint yn llai caeth i'w gyfnod na gweddill ei gyfoeswyr. Adran i'w chroesawu felly yw'r un gymharol helaeth (o ystyried maint y gyfrol) ar ddechrau'r llyfryn sy'n ymdrin â chefndir hanesyddol a chymdeithasol canu Dafydd. Y mae hon yn bendifaddau yn gampwaith o grynhoi deallus a goleuedig. O droi at y bardd ei hun ceir yn y gyfrol adrannau sy'n crynhoi'n gymen yr hyn a wyddys am hynafiaid Dafydd ac am ei fuchedd a'i yrfa. Fe'u dilynir gan adran lle ceisir sefydlu dyddiadau'r bardd. Y mae hon yn gyfraniad ysgolheigaidd