Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

bod yn 'wreiddiol' oedd amcan barddoni iddo ef. Fel yr awgrymwyd uchod, rhaid gwybod am y dyn a'i hynt a'i helynt i iawn-werthfawrogi'r llais personol. Fe glywir y llais hwnnw'n glir ddigon ym marwnad Goronwy i'w ferch, Elin. Y mae'r tyndra unigryw rhwng celfyddyd gaeth bron na ddywedwn 'caethiwus' yr awdl ac ymchwydd arteithiol teimladau'r bardd yn gosod y gerdd hon ar ei phen ei hun a saif fel rhybudd i beidio â labelu gwaith unrhyw fardd yn rhy frwd. Os gellir cychwyn blodeugerdd o farddoniaeth ramantaidd â marwnad o waith Alexander Pope, fel y gwnaeth un detholydd Saesneg, gellid gwneud peth tebyg â'r awdl hon. Goronwy Owen fel rhagredegydd i'r mudiad rhamantaidd nid yw'n osodiad diystyr. Llais amrywiol iawn a glywir yn llythyrau Goronwy ac y mae'r drafodaeth ar Goronwy fel llythyrwr yn un o'r rhannau difyrraf yn yr a.studiaeth hon. Dyrchefir Goronwy yn un 0 lythyrwyr gorau'r ddeunawfed ganrif, pryd y rhoddid gwerth arbennig ar ohebu. Ni ellir amau grym y ddadl a gyflwynir yma. 'Nawdd Duw rhag y fath ddyn', ebychodd Lewis Morris mewn ymosodiad hynod iawn arno. Ond ffrwyth y llyfr hwn yw gyrru'r darllenydd yn ôl at gynnyrch Goronwy Owen a chanddo gyfoethocach gwerthfawrogiad o'i waith fel bardd a llenor a gwell dealltwriaeth o'r bersonoliaeth a ddaw i'r golwg, ie, hyd yn oed yng ngwaith y newydd-glasurwr. Mynnodd Thomas Shankland yn Y Beirniad gynt nad oedd 'dim buddiol wedi ymddangos eto ar berthynas "prifardd telynegol y genedl Gymreig" â'i gyfnod'. Dyna a wneir yn astudiaeth Hywel Teifi Edwards o fywyd a gwaith Ceiriog a chynigir darlun o'r dyn a'r bardd yn ei gefndir a saif am lawer cenhedlaeth i ddod. Nid y cymwynaswr telynegol, arallfydol, a grewyd gan O. M. Edwards a'i ddisgyblion yw hwn. O'r hyn lleiaf, nid hynny'n unig. Eilun ei oes ydoedd, ond ysglyfaeth ei oes yn ogystal. Ar sail ei ymchwil helaeth (ac mae'n bwysig pwysleisio hynny) dyry Hywel Teifi Edwards ddarlun gafaelgar o 'wr trist ei ddadrith', dyn siomedig, rhwystredig, a fethodd ddod ymlaen yn oes aur yr uchelgais iwtilitaraidd. Ac eto, ni bu bardd mor boblogaidd na chynt na chwedyn. Ymroes Ceiriog i chwarae rhan eilun-fardd ei genedl ag arddeliad troëdig ar brydiau. Os oedd yn fictoriad manqué fe'i gosodwyd ar bedestal fel bardd am iddo 'greu cysur' i genedl a oedd yn prysur golli ei henaid wrth geisio meddiannu'r byd Victoraidd Seisnig. Yng nghefndir y byd hwnnw y trafodir Ceiriog fel bardd serch, bardd gwlatgar, bardd hanes Cymru, bardd y caneuon melodaidd a bardd nad oedd, fe haerir, yn fardd natur. O dynnu Ceiriog o'r cefndir hwnnw gall y beirniad llenyddol 'pur' wneud a fyn ag ef. Y mae deall Ceiriog fel bardd Victoraidd yn dasg lawer anos a dyna'r dasg a osododd yr awdur iddo'i hun. Efallai mai un o'r ffyrdd gorau o ddangos llwyddiant y dehongliad yw nodi rhai o'r gosodiadau bachog, cynhwysfawr, sy'n britho'r llyfr ac sydd hefyd yn nodwedd ddifyr ar arddull y dehonglwr. Adlewyrchai'i fethiant nid yn unig arno ef yn bersonol ond ar ei genedl hefyd' a dyna un allwedd i seicoleg Cymru yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg. 'Llais bardd teulu Oes Victoria' oedd llais Ceiriog, meddir, a dyna agor drws arall ar feddwl a chynnyrch y genedl yn ystod teyrnasiad y fenyw fach biwus a roes ei henw i'r ganrif. 'Cynnyrch niwrosis gwaredwyr "Merched Cymru" yn hytrach na ffrwyth mynegiant dilys o gynnwrf serch a bod mewn cariad yw caneuon mab a merch Oes Victoria,' pwnc a esgeuluswyd yn enbyd, gan ei bod mor hawdd crechwenu am ragdybiaethau'r oes ynghylch serch fel petai ein rhagdybiaethau ni wedi creu paradwys ar y ddaear.