Skip to main content

William Ambrose Bebb 1894-1955 Un o blant cefn gwlad Ceredigion oedd Ambrose Bebb yn wreiddiol. Fe'i magwyd ar fferm Camer Fawr ger Tregaron ar dro'r ganrif, yn un o saith, a chan ei fam, Ann Bebb, yn bennaf, gan iddo golli ei dad pan oedd yn saith oed. Ond y cyntaf yn unig o gartrefi Bebb oedd y 'fferm fawr o bum can cyfer'l honno yr oedd mor hoff o bob erw ohoni. 'Cae Camer Fach a'i wair hydiog, meillionog, yn tonni yn awel ysgafn yr hwyr; Cae Canol a'i resi union O mor union! i o datws a maip, Cae Minffordd yn cyd-gerdded yn hir gyda'r ffordd ac yn goleddu fel llen yr un fath â hithau, .2 Ar ôl graddio mewn Cymraeg a Hanes yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, a threulio dwy flynedd yno wedyn yn cwblhau cwrs M. A.,3 aeth Bebb i Ffrainc (i Rennes am gyfnod byr, ac yna i Baris) yn 1920 ar anogaeth yr Athro T. Gwynn Jones, a bu'n cynorthwyo'r Athro Vendryes yn Adran Gelteg y Sorbonne am bedair blynedd, yn ogystal â mynychu darlithiau ysgolheigion fel yr Athro Loth ac Etienne Gilson ac Émile Bourgeois er mwyn ei bleser a'i addysg ei hun.4 Yn ystod yr amser a dreuliodd ym Mharis ymrodd Bebb i feistroli'r Ffrangeg a'r Llydaweg er mwyn medru ymdreiddio i fywyd a diwylliant y gwledydd hynny, ond cadwodd er hynny gysylltiad clòs â Chymru, ac anfonodd sawl erthygl i gylchgronau Cymraeg ac i'r Faner yn disgrifio bywyd myfyriwr yn y brifddinas.5 Dywedodd D. Tecwyn Lloyd fod y cwbl o'r ysgrifau hyn yn dangos fod Bebb 'wedi llwyr golli ei ben, wedi holpio, fel y dywedir ar fywyd Paris ac arferion a moesau'r Ffrancwyr',6 a dyna'r gwir. Ffolodd ar fywyd myfyriwr yn y Quartier Latin, ar y croissants a'r coffi cryf, ar gwmni gwybodusion ceidwadol fel Monsieur J, Anatole Ie Braz8 a Charles Ie Goffic9 ac, wrth gwrs, ar Baris deg ei hun. Ysgrifennodd 'Swyn Paris' wrth gofio ei sejour yno mewn cyfnod pryd yr ystyrid y ddinas honno yn ganolfan ddiwylliannol y byd, a dyma ei diweddglo. Cyn gadael Paris, cyrchwch i ben y bryn lle y saif Eglwys newydd y Sacré- Coeur, ac fe gewch un olwg gyfan gysylltiol ar yr holl ddinas o'r bron, ar ei thyrau ac ar ei themlau, ei cholegau a'i chapeli, ei gerddi a'i phercydd, ei muriau hen a'i maestrefi newydd, ac ar afon Seine yn rhannu'r ddôl dai yn ddwy. Os ymddengys i chwi mai'r ochr dde sydd fwyaf golygus, cofiwch mai yn y Quartier Latin y dysgasom ni wirioni ar swyn y ddinas anwylaf yn y byd.10 Yn 1925, blwyddyn allweddol bwysig iddo ar sawl ystyr, penodwyd Ambrose Bebb yn ddarlithydd mewn Hanes yn y Coleg Normal ym Mangor, a dyna'r unig swydd amser-llawn iddo ei dal yng Nghymru; oblegid yr oedd yn parhau i ddarlithio yno yn 1955 pan fu farw'n sydyn. Bu Bebb yn byw ym Mangor am ddeng mlynedd ar hugain, blynyddoedd