Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

i'w gael mewn unigedd diymgeledd. Ymgeledd cnawd ac ysbryd yn ei ystyr ddyfnaf, sagrafennaidd, a esgorodd ar ei swydd fel bardd y canu i geinder bywyd: A'm swydd, gyda'm arglwydd mên, Oedd ddeall iddo awen; Darllen art arall yn well, Darllen ystoriau wellwell Siensis, drwy'r sîens a drig, Achau'r ynys a'i chronig, A'r hen gerdd, er hyn o gof, A rhieingerdd o'r hengof. (II llin. 27-34) Gwin sagrafen iddo oedd y gwareiddiad gwydn a hen y mynnai ei gynnal a'i gadw yng nghostrel ei ganu, costrel y llifodd ohoni y math llawnder cyfoeth hwnnw a dry gyda gweledigaeth bardd yn emyn o fawl i'r Cread a'i Chreawdwr. Yr oedd ei ddirnadaeth o'i alwedigaeth grefyddol yn ei hanfod wedi ymgrisialu yn y cwpled twyllodrus o syml hwn i Phylib ap Rhys o Genarth: Iddynt y canaf weddi, A gwinfydd a ganwyf i. (17 llin. 53-4) Y mae'n ddiau na feddai Lewys Glyn Cothi ar bresenoldeb corfforol a doniol Guto'r Glyn nac ychwaith fireinder synwyrusrwydd a meddylgarwch athron- yddol Dafydd Nanmor, na hyd yn oed argoel o awen fabolgampaidd gyhyrog Tudur Aled. Na. Awen gymen y gwr hamddenol sicr o'i ffordd a'i Ie yn y byd a oedd ohoni yw eiddo Lewys Glyn Cothi, a melys oedd cael y cyfle hwn i hamddena yn ei gwmni a goryfeddu ar gyflawnder iraidd y gorfoledd a gedwir mwyach i ninnau ar ddalennau'r gyfrol gyfoethog hon. Bethesda, Arfon GORONWY WYN OWEN MARTIN J. BALL a GLYN E. JONES (gol.), WelshPhonology. (Cardiff, 1984). Dylid llongyfarch y golygyddion, Martin Bell a Glyn Jones, am gasglu un ar ddeg o gyfraniadau diddorol ac amrywiol gan arbenigwyr yn y maes, gan gynnwys y golygyddion eu hunain. Gellir edrych ar y llyfr o nifer o safbwyntiau: fel ystordy o ffeithiau disgrifiadol, fel ffynhonnell ar gyfer esboniadau dadansoddiadol, ac fel enghraifft o fethodoleg ymchwilio. I ryw raddau, gellir defnyddio'r llyfr fel gwerslyfr ond, er bod themâu cyffredinol yn y gwaith, teimlaf y dylid derbyn y gyfrol fel casgliad o astudiaethau unigol. Dadansoddiadau pur ieithyddol yw pump ohonynt ond ymdrinia chwech â chyd-berthnasau rhwng iaith a chym- deithas, ac y mae hyn yn adlewyrchu datblygiadau cyfoes mewn tafodieitheg draddodiadol. Rhoddir rhagymadrodd sy'n crynhoi'r cyfraniadau ac yn tynnu sylw at rai o'r cyd-berthnasau rhyngddynt. Ond gellid awgrymu bod eisiau safoni'r confensiynau mewn mannau ac, o bosibl, ddefnyddio croesgyfeiriadau i bwysleisio gwahaniaethau neu gyfatebiaethau rhwng awduron sy'n trin yr un nodweddion. Teimlaf fod rhai o'r cyfraniadau y tu hwnt i raddfa cyfrol o'r math yma: erthygl Martin Rhys ar oslef a disgwrs; disgrifiad Glyn Jones o seiniau unigol y Gymraeg; dadansoddiad o newid ac amrywiaeth yng Nghymraeg Gaiman, Chibut, gan Robert Owen Jones; ac, o bosibl, gwaith Gwenllian Awbery ar batrymau seiniau yn y Gymraeg. Disgrifiadau cynhwysfawr ar raddfa eang yw'r astudiaethau hyn a byddai'n braf pe byddent wedi ymddangos mewn cyfres o gyfrolau a fyddai wedi rhoi mwy o Ie a rhyddid i'r awduron.