Ceisio a chael: perthynas Morgan Llwyd â William Erbery William Erbery, yn ddiau, oedd yr hynotaf o'r grwp o Biwritaniaid a weithiai mor galed ym mhedwar degau a phum degau'r ail ganrif ar bymtheg i ddod â goleuni ysbrydol newydd i Gymru. Bellach mae enwau gweddill yr arweinyddion yn ddigon adnabyddus — Vavasor Powell, Walter Cradock a Morgan Llwyd ond er i'w cyfeillgarwch ag Erbery fod yn hysbys, ac er y gwyddys fod ei ddylanwad yn drwm ar rai o'i gyfeillion, ni roed, hyd yn ddiweddar, yr un sylw iddo ef ag y roed iddynt hwy. Nid fod dim i synnu ato yn hynny, oherwydd gwr naill adain fu Erbery drwy gydol ei yrfa; gwr a goleddai syniadau diwinyddol amheus a'i gosodai (yn ymddangosiadol, 0 leiaf) ar ei ben ei hun. 'Does dim rhyfedd felly na chafodd haneswyr hi'n hawdd ei gloriannu, a'u bod wedi tueddu i fwrw golwg frysiog, anniddig dros ei yrfa.1 Ond daeth tro ar fyd ac esgor ar do o haneswyr a'u bryd ar wneud yn fawr o radicaliaeth amlochrog rhai o Biwritaniaid y cyfnod pan oeddid heb frenin. Daeth y mudiadau yr arferid eu cyfri'n fudiadau ymylol dibwys, bellach yn fudiadau a hawlia sylw pennaf yr haneswyr newydd. Rhoddwyd sylw parchus i radicaliaid gwleidyddol a chymdeithasol, megis y Lefelwyr a'r Cloddwyr (Diggers), ac yn sgîl hynny cynyddodd y diddordeb yn yr hyn a ystyrid gynt yn ysgymun-fudiadau'r radicaliaid crefyddol, y Ceiswyr (Seekers) a'r Bostwyr (Ranters). A chan i Erbery yn ei ddydd gael ei alw'n 'Bancampwr y Ceiswyr', denodd yntau ei gyfran deg o sylw. Mewn braslun gwerthfawr dangosodd Christopher Hill fod Erbery'n coleddu syniadau crefyddol a barai iddo adweithio yn erbyn mawrion ei gymdeithas, a darogan dydd y byddai mawr y rhai bychain.2 'Roedd yn arbennig o gas ganddo'r Degwm, ac y mae o leiaf un o'r pamffledi a ysgrifennwyd ganddo ar y testun hwn (The Grand Oppressor, Or, The Terror of Tithes, 1652) yn dal i haeddu sylw.3 Yn ôl ei arfer mae ei sylwadau'n ddigymodredd: 'God in Christ has glad tydings to speak, and great things to do (in these last dayes also) for three sorts of people; for the poor, for the oppressed, and for the Prisoner’ (49). Mae'n cyfaddef iddo draethu droeon ar y testun hwn cyn sylweddoli, gydag arswyd, ei fod yntau a'i deulu wedi bod yn orthrwm ar y tlawd drwy fynnu'r degwm: 'we drunk their blood, and lived softly on their labour and sweat'(50). Disgrifia wedyn yr ymgiprys mewnol a ddioddefai ar y pwnc hwn, gan nodi fod y gwingo'n debyg i'r hyn a brofasid ganddo o'r blaen pan gredasai fod rhif ei bechodau'n drech na maddeuant Duw. Cabledd oedd y gred honno, eithr fe'i hargyhoeddir yn awr fod Duw am ddysgu