'To the end of the first quarter of the 18th century the entries were almost invariably in Latin but about the year 1733, we find it was superseded by English.' Dyma rai cofnodion o ddiddordeb: 1730 (?1731) Edwardus filius et Gainor filia Johannis Parry, 5o Aprilis. 1731 (?1732) Wilhelmus filius Johannis Parry 10° Aprilis. 1734 (? 1735) Edwardus filius Johannis Parry de Archwedlog. 13° die Maii. Dyma'r unig ddau Edward a gofnodir o gwmpas yr adeg dan sylw, a dyma'r awgrym cyntaf mai gefell oedd Edward Parry a chanddo chwaer o'r enw Gainor. Nodir priodas Edward Parry ym 1747: Edward Parry and Gwen Davies of this Parish by licence from Jo: Kenrick Surr; Oct. 20. Cofnodir ei farwolaeth 16 Medi 1786, a'i gladdedigaeth ymhen tridiau. Bu farw David James, cyd-gyfieithydd Y Perl Gwerthfawr, 12 Mai 1802, yn 67 mlwydd oed. 'Roedd wedi dal i fyw yn yr Allt Ddu, a heb symud o'r ardal. Cyrhaeddodd David Roberts 'Cefn y forest', tad Elinor, gwrthrych yr Alarnad gan Edward Parry a'i gyfeillion, yr oedran teg o 77 mlynedd. Bu farw 12 Gorffennaf 1801. Mae enwau ffermydd Llansannan wedi aros yn rhyfeddol o ddigyfnewid yn ystod y ddwy ganrif ddiwethaf a mwy na hynny, mae'n debyg. Cofnodwyd 'Llusaled', ac ambell 'Lys' arall, yn lled aml, ond ni welwyd 'Llys Bychan' cartref cyntaf Edward Parry trwy gydol y 'Registers'. Dymunaf ddiolch yn gynnes iawn i Mr. Rheon Pritchard o Lyfrgell Coleg Bangor, ac i Mr. Richard Lewis o'r Llyfrgell Genedlaethol, am eu cymorth a'u hamynedd. Llety'r Eos, Llansannan EMYR WYN JONES Mai 1986