Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Bunyan — gan John Thomas a chan gyfieithwyr eraill yng Nghaerfyrddin, ond nid bob tro yno gan Ioan Ross; a throeon eraill yn Abertawe. Gyda llaw, adargraffwyd llawer o'r trosiadau hyn gan Benjamin Morgan ym Merthyr yn ystod tridegau y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r Ddau Gyfammod (1832), fel y nodwyd yn barod, yn eu plith. Ffurfiais y ddamcaniaeth, a chyda gradd helaeth o amharodrwydd a phetruster y gwnaethpwyd hynny, efallai mai John Thomas ac nid Edward Parry oedd yn gyfrifol am y cyfieithiad o Athroniaeth y Ddau Gyfammod. Mae'r manylion am fywyd a gwaith John Thomas ar gael yn Y Bywgraffiadur Cymreig, ond mae'r stori yn ei chyfanrwydd i'w gweld yn ei hunangofiant rhyfeddol — RhadRas Lyfr Profiad am ddaioni yr Arglwydd gan Ioan Thomas, a argraffwyd yn Abertawe gan J. Voss ym 1810. Er gwaethaf holl dreialon ac anfanteision ei lencyndod, mae'n amlwg iddo gael cyfleusterau addysgol gwell 0 lawer na'r cyffredin. Nid oes angen manylu yma am ei yrfa. Daeth yn bregethwr ordeiniedig gyda'r Annibynwyr, teithiodd yn helaeth trwy Gymru a Lloegr, mor bell â Llundain a Brighton, a phregethai'n aml yng nghapelau'r Arglwyddes Huntingdon — yn Saesneg wrth gwrs. Gyda phrofiad mor eang â hyn mae'n siwr fod ganddo feistrolaeth ddigonol ar yr iaith, gyda geirfa fwy cynhwysfawr a mesur o ystwythder ymadrodd tu draw i allu Edward Parry, mi gredaf. A barnu oddi wrth ei niferus drosiadau cydnabyddedig o weithiau John Bunyan, a phrin y mae angen eu rhestru yma bob yn un, ac o ystyried arddull lenyddol a bywiogrwydd ei hunangofiant, daethpwyd i'r casgliad fod John Thomas yn fwy llythrennog nag Edward Parry yn y Gymraeg hefyd. Mae'n rhaid addef ymhellach fod Caniadau Sion John Thomas, cyfrol 0 288 o dudalennau, yn helaethach a chyfoethocach o gryn dipyn nag Ychydig Hymnau Edward Parry. Nid beirniadaeth angharedig sydd tu ôl i'r sylwadau hyn; ymgais sydd yma i gymharu eu doniau a'u cyraeddiadau mewn perthynas â'r gorchwyl o gyfieithu The Doctrine of the Law and Grace Unfolded. Mae'n amlwg fod y saer coed a'r tyddynnwr duwiolfrydig o Lansannan dan anfantais fawr yn mentro ar y gwaith -os gwnaeth. 'Roedd ystyriaethau o'r natur hon yn cryfhau fy amheuaeth am y priodoldeb o ymddiried yr awduraeth i Edward Parry, ond anodd oedd dod o hyd i brawf 'terfynol' o blaid John Thomas. Daeth llygedyn o obaith a goleuni wrth archwilio nifer helaeth o drosiadau a wnaed gan John Thomas, ac yn unig o weithiau Bunyan. Sylwyd ei fod yn ychwanegu nodyn yn aml ar waelod dalen olaf y gyfrol, yn gyfeiriad at drosiadau eraill o'i waith, a theitl y gyfrol arfaethedig. Dyma enghraifft ac y mae un yn ddigon: CRIST YN IACHAWDWR CYFLAWN NEU EIRIOLAETH CRIST Gan y duwiol a'r enwog was hwnnw o eiddo CRIST Y Parchedig Mr. JOHN BUNYAN Wedi ei Gymreigio yn ofalus ac yn ffyddlon Gan y Parchedig Mr. JOHN THOMAS. Caerfyrddin, Argraphwyd ac ar werth gan Ioan Daniel, Gwerthwr Llyfrau yn Hoel-y-Brenin. Pris Naw-Ceiniog, heb ei rwymo.