cyfnod cynnar hwn ar athrawiaethau Duwdod Crist a Chyfiawnhad trwy Ffydd. Darllenodd yn eang oddi mewn a'r tu allan i ofynion ei gwrs. O'r beirdd hoffai'n fwy na neb yr adeg honno Dante a Wordsworth. Datblygodd fedr i werthfawrogi safbwyntiau gwahanol. Gwelai 'Ysbryd pob Daioni' yn ymsymud ym mywydau'r rhai na chytunai ef â'u hopiniynau. Mewn llythyr at ei fam o Rydychen dywedodd ei fod wedi ei argyhoeddi mai'r ffordd sicraf i ddyn fod yn hunanfodlon oedd iddo ddarllen ychydig. Ordeiniwyd ef yn 1840, a bu'n giwrad yng Nghaerwynt a Cheltenham. Wedyn bu am dri mis yn un o eglwysi Rhydychen. Tyrrai myfyrwyr i wrando arno'n awchus. Yr oedd yn ymryddhau gan bwyll oddi wrth ffurfiau meddwl ystrydebol. Y tu hwnt i'r holl beryglon a fygythiai'r Eglwys, yn ei farn ef, 'roedd y perygl i ddynion a neilltuwyd i draethu'r gwir, a byw uwchlaw bydolrwydd, osod syniadau confensiynol yn lle gwirioneddau tragwyddol, a dewis cysur o flaen cydwybod. Yn y blaid efengyleiddiol yr hyfforddwyd ef yn fore; ond gydag amser ei gwestiwn taer oedd, 'Beth yw gwirionedd?' Dymunai gyfuno'r cyfan a oedd yn rhagori ymhob plaid Gristnogol, heb fynd yn gaeth i unrhyw blaid. Cawn ef yn penderfynu cymryd ei ddysgu gan bawb; ond ceisiai droi ei sylw'n bennaf at Grist yn hytrach na'r athrawiaethau amdano. Yn Cheltenham y dechreuwyd ysgwyd ei ffydd mewn efengyleiddiaeth gan anoddefgarwch ffyrnig ei lladmerwyr yno. Ni chwynai ynghylch yr efengyleiddiwyr i gyd, ond canfu ryfyg yn amryw ohonynt a oedd yn deillio o'u syniad balch eu bod yn ffefrynnau Duw. Ymhell cyn mynd i'w ofalaeth olaf yn Brighton barnai fod gormod o gyflwyno Cristnogaeth fel diwinyddiaeth yn hytrach nag fel crefydd y bywyd beunyddiol, gormod fel neges i unigolion a rhy ychydig fel neges i gymdeithas. Gofidiai oblegid 'rhigolau rhyddieithol' Eglwys Loegr a'i diffyg brwdfrydedd. Gyrrid y selog naill ai at Babyddiaeth neu at Ymneilltuaeth. 2 'Incumbent of Trinity Chapel, Brighton, 1847-53' yw is-deitl byw- graffiad Stopford Brooke. Tra oedd Robertson yn giwrad yn Rhydychen cafodd nifer o leygwyr amlwg yn Brighton ganiatâd Esgob Rhydychen i bwyso arno i symud yno. Meddai ei gofiannydd, yn Rhydychen yr oedd fel nofiwr a fentrodd i'r dwfn am y tro cyntaf. 'At Brighton he struck out boldly for the open sea'. Gwelwyd yn fuan y cyfrifai ceidwadwyr ei syniadau am Ysbrydoliaeth y Beibl, yr athrawiaethau traddodiadol am yr Iawn, y Bedydd a'r Saboth, a nifer o bynciau eraill, yn anathema. Lluchiwyd 'holl arfogaeth greulon ffanaticiaeth' ato. (Ar ôl iddo farw rhybuddiwyd darllenwyr y Record fod ei bregethau'n 'unsound' ynglŷn â phob athrawiaeth o bwys ymron: ni ellid