Daniel Owen ac F. W. Robertson Yn ôl John Owen, cofiannydd Daniel Owen, a'i weinidog yn ei flynydd- oedd olaf: Pan ddaeth pregethau Robertson o Brighton allan, cafodd y fath fwynhad ynddynt, drachtiai mor awyddus ohonynt ac adroddai hwynt gyda'r fath rym fel y mentrwn amau a ddarfu i Robertson ei hun eu traddodi yn well. Gan mai traddodwr braidd yn ddigyffro ar ei bregethau ei hun oedd Daniel Owen, gallwn gasglu bod pregethau Robertson wedi ei sbarduno'n anarferol.1 Ymhen blynyddoedd, cofnododd yr un John Owen, West Kirby erbyn hynny, atgof am Daniel Owen yn disgrifio rhai o gym- eriadau'r Beibl i'w gyfaill Ellis Edwards, yn enwedig wedi i Daniel Owen 'gael gafael ar bregethau Robertson o Brighton'. Yn yr un ysgrif dywedodd John Owen fod y nofelydd wedi tynnu sylw ei gyfaill Robert Williams (cyn-löwr darllengar) at bregethau Robertson.2 Tystiodd Isaac Jones, teiliwr a gydweithiai â Daniel Owen: 'adroddai lawer o bregethau Robertson Brighton'.3 1 Pwy oedd y pregethwr hwn yr apeliai ei lyfrau gymaint at Daniel Owen? Ganed Frederick William Robertson yn Llundain ar 3 Chwefror, 1816.4 Capten yn y 'Royal Artillery' oedd ei dad. Bu ond y dim i'r mab yntau yn ei dro dderbyn comisiwn yn y fyddin; ond dylanwadodd ei dad ac eraill arno, oherwydd ei dueddiadau crefyddol cryf, i ystyried ceisio urddau eglwysig. Bu am gyfnod yn ddisgybl yn y New Academy, Caeredin, lle disgleiriodd mewn ieithoedd (John Williams, Archddiacon Ceredigion wedi hynny, oedd y pennaeth). Bu teulu'r Robertsons yn Tours am flwyddyn yn 1829-30, ac mewn ysgol yno y gosodwyd sylfeini medrusrwydd y mab mewn Ffrangeg. Derbyniwyd ef i Goleg y Trwyn Pres, Rhydychen. Gadawodd pregethu J. H. Newman gryn argraff arno. Bu mewn iselder ysbryd oherwydd na allai dderbyn athrawiaethau Newman. Ymroes i astudio'n fwy trwyadl Lyfr yr Actau'n arbennig. Mewn llythyr a sgrifennodd at gyfaill, ddeng mlynedd yn ddiweddarach, dywedodd iddo gerdded gyda Newman at ymyl clogwyn dychrynllyd amheuaeth, ond yn hytrach nag adlamu'n ôl 'mewn ofn a thynerwch' gyda Newman i loches anffaeledigrwydd Pabyddiaeth, syllodd ar y tywyllwch. Yr wyf yn fodlon brwydro ymlaen yn y cyfnos nes bod y goleuni'n dod; golwg bersonol dyn ar y gwirionedd a eill yn unig roi gorffwysfa barhaol iddo. Yr oedd Robertson yn ymresymwr cadarn yn wr ifanc, ac ar yr un pryd darllenai ei Feibl yn gyson a gweddigar. Rhoddai bwys neilltuol yn y