Pan sonnir am leisiau yn y farddoniaeth, y termau a welir amlaf yw trebl a mên, fel, er enghraifft, yng nghywydd Ieuan ap Rhydderch i Ddewi Sant:12 A thoi y plas â thô plwm, A threbl a mên, Pan gyfeirir yn llenyddiaeth Saesneg a Chymraeg y cyfnod at trebl a mên neu byrdwn a mèn yn unig, dichon yr ymhlygir trydedd ran. Ceir enghraifft o hyn mewn cywydd i'r eos gan Fadog Benfras:13 Main y cân brif organ brudd Mên a threbl, mwyn ei thrabludd. Mewn cywydd gan Iolo Goch i Lys Ieuan, Esgob Llanelwy, ceir yr unig enghraifft hyd y gwyddys, yn y Cywyddau, o'r term chwatrebl:14 Offeren fawr hoff eirian A gawn, a hynny ar gân, Trebl, chwatrebl, awch atreg, A byrdwn cyson, tôn teg. Mynn Trowell fod 'awch' yn 'punning substitution for "mên", needed for the alliteration; "awch" really means edge, or a fine blade, for which another word is "min" (= mean)'.15 Mae 'awch' yn medru golygu 'min', ond dichon mai fel 'mên' y clywid swn y gair gan y Cymry,16 ac felly annhebygol yw'r esboniad uchod. Dull o gywreinio siant blaengan yn ddifyfyr â rhannau lleisiol poliffonig oedd yr arddull Faburden a ddisgrifir yn yr enghreifftiau uchod, ac mewn nifer o gyfeiriadau eraill mewn barddoniaeth a rhyddiaith Saesneg a Chymraeg. Yn y bedwaredd ganrif ar ddeg a'r bymthegfed ganrif yn bennaf yr arferid yr arddull, ond gellir canfod cyfeiriadau at yr hyn a allai fod yn elfennau o'r arddull hon mor bell yn 61 å chanol y ddeuddegfed ganrif. 'Roedd y ffurf Saesneg o faburden yn gymharol rwydd i'w pherfformio (yn wahanol i rai o'i chymheiriaid Cyfandiriol mwy soffisti- gedig fel y fau^bourdon), hyd yn oed gan fynaich nad oeddynt ond yn weddol fedrus, a chan gantorion lleyg. Roedd y mwyafrif o 'faburdennau' mewn tair rhan: cenid alaw y plaengan gan y mèn neu'r llais canol a deilliai'r rhan isaf o ganu alaw yn ddifyfyr mewn trydeddau a/neu bumedau efo'r mên. Awgrymwyd gan rai ysgolheigion y gelwid y llais mên yn burden. Fodd bynnag dangosodd yr Athro Brian Trowell yn derfynol nad dyma'r drefn ym Mhrydain ac mai at y rhan isaf yn bendant y cyfeiriai'r term 'burden'. Symudai'r llais uchaf, sef y trebl, bob amser mewn pedweryddau cyfochrog uwchben y mèn. Gallai'r enghraifft isod, sef pennill o'r emyn Sahator Mundi Domine allan o lsgr. Harley 2951, yn hawdd fod wedi cael ei ganu'n ddifyfyr gan y sawl a oedd yn hyddysg mewn rheolau 'faburden'.17