gerddoriaeth eglwysig a cherddoriaeth seciwlar. Trafodwyd y traddodiad cerdd dant a ddisgrifir yng ngweithiau'r beirdd gan T. Gwynn Jones, A. O. H. Jarman ac Enid Roberts,4 ond ychydig o sylw a roddwyd hyd yma i'r nifer o dermau cerddorol penodol a ddefnyddid gan y beirdd mewn cysylltiad â cherddoriaeth gysegredig. Yr oedd beirdd Cymraeg yr Oesoedd Canol diweddar yn weddol fanwl yn eu disgrifiadau o'r ffurfiau cerddorol a ddefnyddid yn yr eglwys, yn enwedig yn gysylltiedig â rhanganu. I'r cerddor, dynoda'r termau byrdwn, trebl, mên a chwatrebl, a welir yn eu gwaith, rannau lleisiol arddull gerddorol a elwir yn Faburden. Nid oes fawr ddim gwahaniaeth rhwng y modd y sillefir y termau hyn a'r modd y sillefir hwy yn yr enghreifftiau niferus a welir ym marddoniaeth Saesneg y cyfnod. Yn y Story of England gan Robert Manning (c. 1315-1338), sef cerdd yn sôn am goroni'r Brenin Arthur, disgrifia'r bardd y gerddoriaeth a berfformid yn ystod offeren: When pe Procession was gon, Pe Messe bygan sone anon: per myghte men se fair samninge Of po clerkes pat best coupe synge, Wyp treble, mene, and burdoun, Of mani on was ful swete soun Of po pat songe heye and low, And po pat coupe orgnes blowe.5 Ceir yr un termau yn The Visions of Tundale (1391-1410), lle sonnir am gerddoriaeth eglwysig fel un o geinion y Baradwys Ddaearol: On po cordes wer instrumentis sere Of musike, pat hadde swete sown and clere, Organes, symbales and tympanes And harpes, pat range all at ones. pai gaf a delectabull sowne, Bope trebull and mene, and burdowne. Defnyddia'r beirdd Cymreig y termau hyn yn yr un modd, gan gynnwys cyfeiriadau at yr organ. Dichon mai disgrifio sain organ yr Abaty a'r nifer o rannau a genid arni a wna Dafydd Nanmor yn ei gywydd i Forgan, Abad Ystrad Fflur (c.1445-86):7 Teg yw swn byrdwn lle bo Trebl a mên trwy blwm8 yno. Awgrymodd Trowell9 y gallai 'trwy blwm' fod yn air mwys am triplum, ond annhebygol yw hyn, gan na wyddys am unrhyw enghraifft o'r gair hwn yng ngweithiau Cymraeg y cyfnod. Diddorol yw sylwi, fodd bynnag, bod y mynaich Sistersiaidd a'r mynaich Benedictaidd yn enwog er y ddeuddegfed ganrif am ffurf o ganu a elwid triplesong. 10 Ceir cyfeiriad yn Statudau Cabidwl Cyffredinol Urdd y Sistersiaid yn 1217 at ganu mewn tri llais ac mewn pedwar llais yn abatai Dore a Tyndyrn.11