Rhai Termau Cerddoriaeth Eglwysig yng Ngwaith y Cywyddwyr Cafwyd bod cerddoriaeth eglwysig Cymru'r Oesoedd Canol yn bwnc anodd i ymchwilio iddo. Gellid disgwyl cael hyd i'r rhan helaethaf o'r dystiolaeth yn y llyfrau offeren, y llyfrau Greal (Graduals), y llyfrau Antiffonau (Antiphonals) a llyfrau gwasanaeth eraill 11e y nodid y gerddoriaeth ac y cynhwysid y blaengan ar gyfer defnydd beunyddiol yn y litwrgi. Yn anffodus cafodd y mwyafrif o'r llawysgrifau eu dinistrio neu eu gwasgaru tua diwedd cyfnod diddymu'r mynachlogydd a dinistriwyd llawysgrifau'r eglwysi cadeiriol yn ystod teyrnasiad Edward VI. Cofnodir un o'r gweithredoedd dinistriol olaf pan fu i'r Esgob Ferrar yn 1550: at ye present King's command as 'tis said burnt all ye Martyrologies, portiforiums and ancient Missals at ye Catherdral Church of St. David Ceisiodd rhai unigolion â theimladau Catholig cryf achub o leiaf rai o'r llawysgrifau, ond ni fu eu hymdrechion yn llwyddiannus bob tro. Er enghraifft, yn Nhyddewi yr oeddid wedi cuddio llawer o lyfrau gwas- anaeth y cyfnod cyn y Diwygiad, gan gynnwys rhai llawysgrifau cerddorol, cyn i'r Esgob Farrar geisio'u dinistrio'n llwyr. Fodd bynnag, yn 1571 fe'u darganfuwyd, a gweithredodd aelodau'r Cabidwl yn gyflym: Elis ap Howell, Because he being Sexton in the Cathedral Church of St. Davids of long time did conceal certain ungodly popish books: as mass books, hymnals, Grails, Antiphons and such like (as it were looking for a day): Mr. Chantor deprived him of the sextonship and the fees thereunto belonging. And the said Mr. Chantor on the day of this instant July, caused the said ungodly books to be cancelled and torn in pieces in the Vestry before his face.2 Bu'r diwygwyr brwd yn rym dinistriol hynod o effeithiol felly, i bob golwg, yng Nghymru, oherwydd, gyda dau eithriad nodedig, ymddengys fod pob llawysgrif gerddorol o'r Oesoedd Canol wedi eu dinistrio cyn diwedd yr unfed ganrif ar bymtheg. Ceir yn Llyfr Esgobol (Pontifical) yr Esgob Anian3 ym Mangor a Llyfr Antiffonau Pen-pont, sydd yn awr yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, dystiolaeth brin i arddull gerddorol a oedd â'i gwraidd yn Arfer Sarum. Er yn gynnar yn y drydedd ganrif ar ddeg, yr oedd yr eglwysi cadeiriol a'r mynachlogydd Cymreig wedi mabwysiadu arferion litwrgiaidd Caersallog (Salisbury), ond cyfansoddwyd siantiau o'r newydd neu aildrefnu hen rai, er mwyn darparu cerddoriaeth ychwanegol ar gyfer dathlu gwyliau'r prif seintiau Cymreig. Oherwydd diffyg tystiolaeth gerddorol, rhaid troi at ffynonellau eraill am sylwadau ar gerddoriaeth eglwysig Gymreig a'r dull o'i pherfformio. Ceir nifer mawr o gyfeiriadau ym marddoniaeth y Cywyddwyr at