Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

clasurol — Homer, Fyrsil, Horas a chyhoeddwyd nifer o'i drosiadau yn Y Traethodydd. Dyna, felly, rai o'r gwyr enwog gynt a amlygodd yn eu gwaith fesur o'r glasuriaeth honno yr oedd Lewis Edwards yn gymaint lladmerydd iddi. Erbyn ei farw ef yn 1887 yr oedd Adroddiad Pwyllgor Aberdâr wedi'i gyflwyno, ac erbyn diwedd Oes Victoria yr oedd ymron gant o ysgolion 'sir' newydd wedi'u hagor yng Nghymru, a cholegau Caerdydd a Bangor wedi'u hychwanegu at Aberystwyth fel Colegau Prifysgol. Rhoddodd y tri choleg, fel Coleg Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan hefyd, Ie blaenllaw i ddysgu'r ieithoedd clasurol, a bu Lladin yn bwnc gorfodol, i bob pwrpas, yn yr ysgolion sir. Fy argraff i yw na chafodd Groeg yr un pwyslais yn yr ysgolion hynny, ac mai yn yr hen ysgolion gramadeg Ysgol y Friars, Ysgol y Bontfaen, Ysgol y Frenhines Elizabeth yng Nghaerfyrddin, ac ati y cadwyd y pwyslais ar y byd clasurol fel undod crwn. Y mae lle i ddadlau, fel y gwnaeth Saunders Lewis yn ddeifiol yn yr ysgrif y cyfeiriwyd ati eisoes,18 fod gweledigaeth a dyneiddiaeth Lewis Edwards mewn gwirionedd wedi eu llwyr golli yn y cyfundrefnu hwn ar addysg. Yn sicr erbyn heddiw gellir dweud, gyda Gwenallt, fod 'y Roeg yn cael ei chlwyfo hyd angau yn y ceyrydd addysg, y Lladin yn llesgáu; y clasuron yn clafychu'. 19 Ac yn ein dydd ni nid ydym ychwaith yn brin o rai sy'n barod i weld yn y lle a roddodd Lewis Edwards i'r clasuron mewn addysg, yn arbennig addysg y weinidogaeth, arwydd o'r drwg a arwein- iodd at falltod 'y dirywiad diwinyddol Cymreig'.20 Gorsymleiddio yw hynny, debygwn i; y mae hanes yr ymwneud rhwng Cristnogaeth a'r traddodiad clasurol yn ymestyn yn ôl, heibio i Galfin ac Awstin, i gyfnod y Testament Newydd ei hun. Ac ni ellir dibrisio'r cyfoeth sy'n perthyn i bob un o'r tair ystafell yr ystafell Gristionogol, yr ystafell glasurol, a'r ystafell genedlaethol a ffurfiai gyda'i gilydd adeilad fel yr un gwych hwnnw a godwyd gan J. E. Daniel, yn ôl un arall o farwnadau mawr Gwenallt (Y Coed, tt.20-22): Nid ystafelloedd ar wahân oedd y rhain, ond yr oedd drws Yn myned o'r naill i'r llall, a grisiau yn eu clymu. Clymu dyneiddiaeth y Dadeni wrth y ddiwinyddiaeth Drindodaidd, A gosod diwinyddiaeth yr Eglwys yng nghanol argyfwng Cymru: Clymu Caersalem ac Athen a Bangor. Yn ddiamau y mae i Lewis Edwards Ie breiniol yn hanes gosod sylfeini unrhyw adeilad felly yng Nghymru Oes Victoria a'r cyfnodau a'i dilynodd. NODIADAU Darlith a draddodwyd i Gymdeithas Hanes Cymru, Coleg y Brifysgol, Caerdydd, yn Chwefror 1985. 1 Cafwyd nifer o astudiaethau pwysig yn y maes hwn mewn blynyddoedd diweddar, yn