Lewis Edwards, Oes Victoria, ar Byd Clasurol Amcan hyn o lith* yw ystyried un gongl fach o fyd syniadol y ganrif ddiwethaf, a cheisio gweld fel y bu i'r gongl honno effeithio ar y Gymru Gymraeg yn Oes y Frenhines Victoria, yn arbennig drwy rai o ysgrifen- iadau'r Dr. Lewis Edwards. Fel y gwyddys, un o'r dylanwadau mwyaf ffurfiannol onid yn wir y mwyaf ffurfiannol oll, ac eithrio Cristnogaeth ar y rheini a addysgwyd yn Ysgolion Gramadeg y Tuduriaid a'r Stiwartiaid, ac yn yr Hen Brifysgolion yn Lloegr a'r Alban wedi'r Dadeni, oedd dylanwad y clasuron Groeg a Lladin. Yn wir, y mae'n anodd i ni heddiw ddychmygu ac amgyffred y gafael a oedd gan y clasuron ar genedlaethau o'r rhai a dderbyniodd eu haddysg yn rhai o'r hen sefydliadau addysgol rhwng cyfnod y Dadeni a dechrau'n canrif ni. Wrth gwrs, haen denau iawn mewn cymdeithas a dderbyniai addysg felly; ond yr oedd hi'n haen ddylanwadol, ac âi'r rhai a oedd o'i mewn yn eu blaen, ran fynychaf, i lenwi swyddi o bwys mewn byd ac eglwys. Ac yn Lloegr, beth bynnag, fe gyrhaeddodd y diddordeb hwn yn yr hen fyd clasurol ryw fath o benllanw yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Nid bod Lladin a Groeg clasurol fel ieithoedd i gyfathrebu ynddynt, hyd yn oed ar bapur, yn fwy poblogaidd; yr oedd cyfnod Lladin fel linguafranca dysg wedi darfod er yr ail ganrif ar bymtheg. Ond fe welodd y ganrif ddiwethaf dwf a chynnydd aruthrol mewn diddordeb ysgolheigaidd a phoblogaidd yn syniadau'r hen fyd, ac yn arbennig felly yn y Groegiaid eu llên a'u hanes a'u syniadau a'u celfyddyd ac yn y blaen. Y mae'n werth oedi am ychydig gyda'r diddordeb hwn yn y Groegiaid. Fe fyddwn ni'n arfer meddwl, ac yn gywir felly, am y byd clasurol fel byd crwn, cyfan, gyda'r ddau wareiddiad, Groeg a Rhufain, yn hollbwysig ynddo. Ond y mae'n iawn cofio mai ar yr ochr Ladin, Rufeinig, y bu'r pwyslais drwy'r Oesoedd Canol; a hyd yn oed wedi'r adennill mawr ar lenyddiaeth a dysg Roeg yn y Gorllewin gyda'r Dadeni Dysg, digon gwannaidd oedd gafael llawer, hyd yn oed y mwyaf addysgedig, ar yr iaith honno mewn cymhariaeth â Lladin. Dyna'r enwog Edward Gibbon, er enghraifft, yn ei hunangofiant a ysgrifennwyd yn niwedd y ddeunawfed ganrif, yn gresynu oherwydd ei diffyg mewn Groeg: In the nineteenth year of my age I determined to supply this defect I worked my way through about half the Iliad and afterwards interpreted alone a large portion of Xenophon and Herodotus. But my ardour, destitute of aid and emulation, was gradually cooled and, from the barren task of searching words in a lexicon, I withdrew to the free and familiar conversation of Virgil