gyfraniad i'r drafodaeth fod yn bwysig o hyd. Dywedwyd am Oscar Cullmann fod arno angen athronydd i amddiffyn ei gasgliadau fel esboniwr beiblaidd. Yn ôl Marsh gallai Dodd, o ran gallu, fod wedi gwneud ei waith athronyddol ei hun. Os felly, dyma fesur ei ddoniau arbennig. Gwnaeth y tri darlithydd gyfiawnder ag ef trwy ein symbylu i astudio'r pethau a gyfrifwyd yn bwysig gan Charles Harold Dodd. STEPHEN NANTLAIS WILLIAMS EMYR WYN JONES, YrAnterliwt Goll, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 1984, tt. XI, 67, pris £ 4.95. Yn rhifyn Ionawr, 1987 o'r Traethodydd ceir ysgrif gan Dr. Emyr Wyn Jones ar Edward Parry, Bryn Bugad, Llansannan, cynghorwr Methodistaidd a fuasai, cyn ei dröedigaeth, yn chwaraewr anterliwt yng nghwmni Twm o'r Nant. Tybed a glywodd ef am Barn ar Egwyddorion y Llywodraeth yr anterliwt y mae'r doctor tra dysgedig yn ei thrafod a'i hatgynhyrchu yn y llyfr deniadol hwn? Wel, do, efallai; ac efallai na ddo, oblegid amheuir fod y rhan fwyaf o'r copiau ohoni a argraffwyd (yn nechrau 1785) wedi'u difetha. Ond ni allai Edward Parry, na neb arall yn esgobaeth Elwy, lai na gwybod am yr achos a ddisgrifid yn yr anterliwt, sef yr achos llys a ddycpwyd yn erbyn y Deon Shipley 'am gyhoeddi athrod a allai arwain i derfysg' yn 1783. Yr hyn a ddarfu Shipley oedd ailgyhoeddi pamffledyn o eiddo'i ddarpar frawd-yng-nghyfraith, Syr William Jones, F.R.S., yn yr hwn y mae Gwr Bonheddig yn annog Llafurwr i geisio gwarchod ei hawliau suful a'u hestyn (ceir copi o'r gwaith yn Atodiad I lyfr Dr. Wyn Jones). Ond y dwthwn hwnnw, a chysgod Rhyfel Annibyniaeth America yn drwm ar San Steffan, nid oedd y fath herfeiddiwch yn dderbyniol o gwbl, yn enwedig gan Uchel Siryf sir y Fflint, Thomas Fitzmaurice o Leweni, yr oedd ei frawd, yr Arglwydd Shel- bourne, yn Brif Weinidog ar y pryd. Dymuniad Shipley yn nechrau 1783 oedd cyhoeddi cyfieithiad Cymraeg o bamffledyn William Jones, ac y mae'n anodd osgoi'r farn mai codi gwrychyn Fitzmaurice oedd ei fwriad. Yn sicr, ni fynnai gyfieithiad o'r llyfryn er budd y Cymry nid oedd na Jac Glan-y-gors na Thomas Roberts Llwyn'rhudol: gwr eglwysig proffesiynol ydoedd, mab yr esgob, daliwr bywoliaethau niferus, heliwr a thirfeddiannwr, dyn, fel y dengys Dr. Wyn Jones yn ei ragymadrodd golau, nad oedd gan ei gydfoneddigion ddim llawer o dda i'w ddweud amdano. Methodd â sicrhau cyfieithiad. Yna, wedi i farnwyr yn Llundain ei ryddhau (ar bwynt technegol, ac o bosib dros dro), dichon iddo gomisiynu anterliwt yn adrodd am yr achos a gorchymyn yr awdur i gynnwys ynddi drosiad o The Principles of Government Syr William (tt. 15-23). Talu'n ôl i'w erlynydd o Leweni oedd ei fwriad eto, fe ddichon, a chael y werin anterliwtgar o'i blaid. Barn Dr. Wyn Jones yw iddo sylweddoli y byddai 'rhyddhau'r anterliwt i gylchrediad cyffredinol yn gamgymeriad enbyd' oherwydd 'y mae'n debygol y byddai'r Uchel Lys yn Llundain yn edrych ar y weithred fel "Tremyg Llys" Ond pwy yw awdur yn anterliwt? Ai Twm o'r Nant a'i lluniodd? — a hynny am ffî y byddai'n dda iawn iddo wrthi? Os gwir hynny (ac ni ellir na derbyn na gwrthod yr awgrym heb gymharu'r gwaith yn fanwl gydag anterliwtiau eraill y cyfnod, rhai Twm ac awduron eraill), ni fynnai neb ei bod ymhlith ei oreuon. Gwerth y llyfr hwn yw ei fod yn enghraifft o briodi darn o hanes difyr, y mae iddo oblygiadau cyfreithiol nid dibwys, gyda darn o brydyddiaeth o'r math a barhâi'n boblogaidd fel moddion diddanwch, dychan, a difenwi, yn oes yr emyn. Cyflawnodd Dr. Wyn Jones dasg arall yn raenus yn ôl ei arfer. DEREC LLWYD MORGAN