Adolygiadau W. E. POWELL, gol., C. H. Dodd, 1884-1973: The Centenary Lectures, (Clwyd, 1985) Prin fod lle i amau statws C. H. Dodd fel ysgolhaig y Testament Newydd. Cyfunai'r awydd i drin themâu cynhwysfawr gyda'r wybodaeth fanwl sydd yn gwneud y fentr yn ffrwythlon. Cyhoeddwyd yma, gan dri arbenigwr cymwys, ddarlithiau i ddathlu canmlwyddiant ei eni. Digon diddorol a darllenadwy yw'r tri, ac fe werthfawrogir y cynnwys gan y sawl sydd am bori ym meysydd astudiaethau beiblaidd a diwinyddol. Crynodeb sydd gan John Tudno Williams o gyraeddiadau Dodd fel ysgolhaig mewn pum maes: undod y Testament Newydd, damhegion Iesu, escatoleg, Ioan a Paul. Ym mhob achos, ac eithrio'r olaf, nodir y pwyntiau lle y bu beirniadu neu gymedroli ar gasgliadau Dodd. Dengys triniaeth gryno'r darlithydd o'r maes mor eang oedd lled adenydd Dodd yn ei astudiaethau beiblaidd. Trafodaeth o waith Dodd fel cyfieithydd y Beibl a gawn gan Owen Evans; bu Dodd yn gyfarwyddwr panel cyfieithu'r Beibl Newydd Saesneg fel y mae'r darlithydd yntau yn gyfar- wyddwr yn achos y Beibl Newydd Cymraeg. Yn ôl Owen Evans ei hun, crwydro braidd y mae'r ddarlith, gan ddechrau trwy wneud sylwadau canmoliaethus ar Dodd fel cyfarwyddwr a gorffen gyda sylwadau beirniadol ar y BNS fel cyfieithiad. Bydd hyn o ddiddordeb i'r neb a fyn gipolwg i ystafell bwyllgor y cyfieithydd neu a fyn ddeall rhesymeg cyfieithiad y BNS o'r testun beiblaidd. John Marsh sydd â'r cyfraniad hwyaf. Fel Owen Evans, mae'n dechrau drwy sôn am Dodd fel person, ac yna, â sylwedd y ddarlith, fel yn achos John Tudno, ar ôl gwaith Dodd, gan ei drin yn gronolegol yn ogystal ag yn thematig. Ymdrinnir yma â gwahanol agweddau ar argyhoeddiad Dodd am bwysigrwydd y presennol yn nysgeidiaeth Iesu, a'r bendithion a ddaw yn sgil dyfodiad y Deyrnas ynddo. Yn llaw un a ysgrifennodd ar gwestiynau cyffelyb, daw grym a chydlynedd safbwynt C. H. Dodd i'r brig yma. Ymddengys o leiaf ddau beth trawiadol ynglŷn â chyfraniad Dodd yn y gyfrol hon. Yn gyntaf, mae'n werth holi beth oedd hyd a lled Rhyddfrydiaeth Dodd. I'r rhai sydd am wneud pob diwinydd yn 'efengylaidd' neu yn 'rhyddfrydol' nid oes amheuaeth fod Dodd yn cynrychioli'r ail ddosbarth yn deg. Ond nodir gan John Tudno y gwahaniaeth rhwng diwinyddiaeth feiblaidd Dodd a'r hen feirniadaeth ffynonhellau ryddfrydol, a hefyd y gwahaniaeth rhwng safbwynt clasurol rhyddfrydol von Harnack a safbwynt Dodd. Ar yr un pryd, dengys Marsh i ni y cysylltiad rhwng dysgeidiaeth Dodd ar Dadolaeth Duw a'i "escatoleg gyf- lawnedig" ymddengys ei fod wedi synhwyro fod y fath fendithion yn dod i ddyn trwy ddatguddiad Iesu o Dadolaeth Duw, fod gohirio'r escatolegol i'r dyfodol yn amddifadu'r datguddiad hwnnw o elfen bwysig. Yn wir, mae hyn nid yn unig yn ein gwahodd i ystyried pa wahaniaeth sylfaenol sydd rhwng Dodd a Harnack ar Dadolaeth Duw, ond i sylweddoli hefyd beth oedd cyd-destun "escatoleg gyflawnedig" Dodd yn ei ddiwinyddiaeth gyffredinol. Yn ail, os yw Dodd yn goroesi yn rhinwedd ei alluoedd fel ysgolhaig, mae'n dal ar dir y byw hefyd am iddo gyfrannu i drafodaeth sydd yn parhau o hyd. Hudwyd diwinyddion yn ddiweddar gan y sôn am "ddyfodol" escatolegol, ond mae seiliau manwl feiblaidd eu hargyhoeddiadau yn destun dadl. Os gellir dadansoddi'n gywir y berthynas rhwng diwinyddiaeth Dodd a Phlatoniaeth athronyddol fe all ei