Hywel D. Lewis ar Foesoldeb a Gwleidyddiaeth I Er ei fod wedi ymddeol ers rhai blynyddoedd bellach, deil yr Athro Emeritus Hywel D. Lewis yn eithriadol o weithgar a diwyd yn ei waith athronyddol, gan godi cywilydd ar rai llawer iau a llawer llai egnïol. Y mae i'w longyfarch yn gynnes iawn ar gyhoeddi cyfrol arall sy'n dra darllen- adwy a chlir, ac sy'n trafod, fel ymhob un o'i lyfrau, agweddau ar broblemau athronyddol, moesol, diwinyddol a gwleidyddol pwysig iawn.1 Prin y gall hyd yn oed y sawl sy'n anghytuno'n frwd â syniadau athronyddol yr Athro, wadu ei fod yn llwyddo i hoelio sylw'r darllenydd ar bynciau o'r pwys mwyaf i foeseg a chrefydd, ac yn wir i seiliau gwareiddiad, neu o leiaf i seiliau'r gwareiddiad Cristnogol sy'n prysur ddadfeilio o flaen ein llygaid. Yn ystod gwyliau'r Nadolig cefais gyfle i weld y rhaglen deledu, Penyberth, drama'n ailgreu'r amgylchiad yn y Llys Barn yng Nghaer- narfon pan ddaethpwyd â'r tri a fu'n gyfrifol am losgi'r ysgol fomio yn LlYn o flaen eu gwell. Yn y ddrama rhy'r awdur eiriau tebyg i hyn yng ngenau arweinydd y tri. 'Cyfaddefaf fy mod yn euog o droseddu yn erbyn Deddf Gwlad, ond mae'n rhaid i mi gydnabod Deddf Foesol sy'n oruwch na Deddf Gwlad, ac yn ôl gorchymyn fy nghydwybod mae'n rhaid i mi ufuddhau i'r Ddeddf Foesol pan fo honno'n gwrthdaro â Deddf Gwlad'. Cyfyd sawl problem athronyddol o'r safbwynt a ddatgenir gan yr awdur yn y geiriau yna, er nad wyf yn sicr ei fod ef yn ymwybodol ohonynt. Beth bynnag am hynny, fe ddown yn ôl yn y man at y problemau a gyfyd o ofyn beth yw'r berthynas rhwng moes a Deddf Gwlad. Yn ystod y gwyliau hefyd cefais fy mherswadio i drafod nofel enwog Camus, The Outsider, ac i'r pwrpas hwn ailddarllenais y nofel fer ond afaelgar honno. O'i hailddarllen sylweddolais pam y mae'r gwaith llenyddol hwn wedi cael dylanwad aruthrol, oherwydd mae'n rhyw fath o ddrych o'r hyn sydd wedi digwydd yn foesol yn ein cyfnod ni. Mae'r nofel, wrth gwrs, o ddiddordeb mawr i ddiwinyddion, gan i'r prif gymeriad, a gafwyd yn euog mewn Llys Barn 0 ladd Arab heb achos, wadu bodolaeth Duw, a gwadu realiti anfarwoldeb, pan ddaeth Caplan y carchar i'w gell i weddïo gydag ef am ei enaid yn ei funudau olaf cyn iddo ei hun gael ei ddienyddio. Ond ar wahân i'r ffaith fod y nofel yn rhoi mynegiant, ymhell cyn i'r diwinyddion drafod y mater yn ffurfiol, i'r syniad fod Duw wedi marw, a bod dyn yn gorfod wynebu bywyd orau y gall mewn bydysawd di-dduw sy'n elyniaethus i ymdrechion moesol dyn, cyfyd trafodaeth o'r H. D. Lewis, Freedom andAlienation (Scottish Academic Press, 1985) tt.ix a 159, £ 12.50, clawr papur [8.50.