Yn ei ragair i'w lyfr cyntaf a gyhoeddodd yn Saesneg, Morals and the New Theology (1947) gresyna yr Athro Lewis oherwydd yr arwyddion digamsyniol yr adeg honno fod pobl ddysgedig a deallus yn gwrthod ymdrin â chrefydd o ddifrif. Heb ddiwygiad yn y cyfeiriad yma, fe fyddai crefydd, yn ei dyb ef, yn wynebu cyfnod hir o drai. Geiriau proffwydol o eiddo'r Athro Lewis, oherwydd mae'n amlwg ddigon erbyn hyn fod dirywiad mewn crefydd wedi digwydd rhwng 1947 a 1983. Ond onid rhyfeddol fod y ddau athronydd, un yn y ddeunawfed ganrif a'r llall yn y ganrif hon, yn proffwydo dirywiad crefydd? Un esboniad o hyn fyddai honni bod diwinyddion ac athronwyr crefydd yn dueddol o edrych ar yr ochr ddu i bethau ac felly credu eu bod yn gweld dirywiad ym myd crefydd ym mhob cenhedlaeth. Ond esboniad talcen slic fyddai hynny. Gwell nodi cywirdeb barn yr Esgob Butler: fe ddigwyddodd dirywiad mawr iawn mewn crefydd a chrefydda yn hanner cyntaf y ddeunawfed ganrif. Ond dylid sylwi hefyd fod y dirywiad yma wedi ei ddilyn gan adfywiad nerthol gyda'r Methodistiaid yn Lloegr a Chymru. Er mor anodd credu hynny rwan, gall ein bod ar drothwy adferiad llawn mor syfrdanol â'r un a ddigwyddodd yn y ddeunawfed ganrif i ganlyn y cyfnod o drai y rhybuddiodd yr Athro Lewis ei gyfoeswyr amdano. Drwy'r Analogy gofidia Butler nad yw dynion deallus, oherwydd esgeulustod neu ddifaterwch, yn talu'r sylw dyladwy i neges ddifrifol crefydd, ac yn arbennig i ddysgeidiaeth y grefydd Gristnogol. Beth yw'r ddysgeidiaeth honno a pham y mae'n rhaid ymateb yn ddifrifol iddi? Yn ôl Butler neges fawr Cristnogaeth yw fod yna fywyd arall, gwahanol iawn i hwn, y tu draw i'r bedd. Ac yn y bywyd hwnnw bydd Duw, a grëodd y byd, a'r ddynoliaeth, yn gwobrwyo neu'n cosbi dynion yn ôl eu buchedd yn y bywyd hwn. Fe wobrwya Duw'r sawl sy'n byw bywyd rhinweddol yn y bywyd hwn, ac fe gosba'r sawl a fu'n anfoesol. Os gwir bodolaeth Duw, os gwir bodolaeth bywyd y tu hwnt i'r bedd, ac os gwir bod Duw yn ymddwyn â ni yn y bywyd hwnnw yn ôl ein buchedd yn y bywyd hwn, yna mae hi'n fater o'r difrifwch mwyaf sut fath ar fuchedd a ddilynwn yn y byd hwn. Os calon y grefydd Gristnogol yw'r gred mewn bywyd arall y tu hwnt i'r bedd, yna hawdd deall pam mai oes ddi-grefydd yw ein hoes ni. Ymddengys mai ychydig iawn ar gyfartaledd sy'n credu mewn anfarwoldeb. Ac mae nifer y credinwyr hynny sy'n byw eu bywydau ar sail y gred mewn anfarwoldeb yn llai fyth. Wrth drafod yr ystyriaethau o blaid anfarwoldeb pwysleisiodd Butler swyddogaeth rheswm a phwysigrwydd profiad. Ynglyn â rheswm dywed nad oes gan ddyn ond ei reswm i farnu'n gywir ynglyn ag unrhyw beth, I express myself with caution lest I should be taken to vilify reason: which is indeed the only faculty we have wherewith to judge concerning anything, even revelation itself.7 Os rhan o swyddogaeth y gallu meddyliol a feddwn ac a alwn yn rheswm, yw barnu ynglyn â dilysrwydd pethau, hynny yw, barnu'r hyn sy'n wir neu'n anwir, yna ffolineb yw cefnu ar reswm a dibynnu'n gyfan gwbl ar ein teimladau. 'Roedd Butler, fel Locke o'i flaen, yn llawdrwm ar yr 'enthusiasts 'ym myd crefydd, sef y sawl a feddiannwyd gan deimladau crefyddol cryf, gymaint felly fel yr oeddynt yn argyhoeddedig eu bod, yn llythrennol, wedi eu llenwi â Duw ^füled with