ddylid ei ddiddymu unwaith ac am byth; neu'n wir, fel y rhagwelwyd yn y rhaglith i Ddeddf 1911, a ddylid ei gadw a dileu'r elfen etifeddol. Cyfyd dau gwestiwn yma: Yn gyntaf, a yw ail siambr sydd wedi colli ei rheolaeth dros gyllid yn werth ei chadw? Yn ail, oni fyddai cyfundrefn un siambr, fel yr oedd y Blaid Lafur, yn sgîl Penderfyniad Cynhadledd, yn ceisio dadlau yn etholiad 1983, yn welliant yn y pen draw? Ynglyn â'r pwynt cyntaf, ceir llawer o wledydd ag ail siambrau cryf sy'n meddu ar alluoedd deddfwriaethol, sy'n gyfartal ag eiddo'r siambrau isaf, hyd yn oed mewn materion cyllidol; er enghraifft, Sweden, gwlad Belg a'r Eidal, tra bo gan Seneddau Canada ac Awstralia alluoedd cyfredol ac eithrio ynglyn â chyllid, er fy mod yn meddwl y gall yr olaf wneud 'awgrymiadau' ynghylch diwygiadau cyllidol. Yn ogystal fe geir ail siambrau cryf; er enghraifft, ein hail siambr ninnau a rhai Ffrainc a'r Is-Almaen. Y cwestiwn yw, a yw ein Ty Arglwyddi ni'n gweithio i bwrpas, ac fe ddof yn ôl at hyn mewn munud. Yr egwyddor o gael llywodraeth un siambr neu ddwy: bu hwn yn destun dadl ers canrifoedd. Ceir gwledydd sy'n llywodraethu ag un siambr, e.e., Syria, Groeg, y Ffindir, Twrci a Seland Newydd o fewn y Gymanwlad, ond gwell gan y mwyafrif gael llywodraeth ddwy siambr. Ceir rhai cefnogwyr brwd iawn dros gael dwy siambr. Dywedodd John Stuart Mill mai'r ddadl fwyaf arwyddocaol o blaid dwy siambr oedd 'yr effaith ddrwg a gafwyd ar feddwl unrhyw un ag awdurdod ganddo, boed hwnnw'n unigolyn neu'n gynulliad, gan yr ymwybyddiaeth nad oedd yn rhaid ymgynghori â neb arall o gwbl. Gall mwyafrif mewn cynulliad unigol, a hwnnw o gymeriad parhaol — pan fo'n cynnwys yr un bobl sydd byth a hefyd yn gweithredu gyda'i gilydd ac yn sicr o fuddugoliaeth yn eu ty eu hunain fynd yn unbenaethol yn rhwydd iawn ac yn ormesol, oni bydd angen iddynt ystyried a gytunir â'u mesurau neu beidio gan awdurdod cyfansoddedig arall'. Siaradodd Mill am y cyd-weithio rhwng dau dy fel 'ysgol barhaol'. Cyfeiriodd Cromwell (os mentrir ei ddyfynnu) at Senedd y Gweddill (Rump) sef Senedd un siambr, a ddiddymwyd ym 1653, fel 'y gwamalwch mwyaf erchyll a fu ar y ddaear erioed', ac fe ddywedodd Maine fod 'bron unrhyw fath ar Ail Siambr yn well na dim un'. A chymryd bod rhywun yn cytuno ag ail siambr mewn egwyddor, beth a ddylai swyddogaethau'r siambr honno eu cynnwys? Ym 1918 awgrymodd Cynhadledd dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Bryce bedair swyddogaeth a fyddai'n briodol i ail siambr: 1. Archwilio ac adolygu Mesurau a ddygwyd o Dŷ'r Cyffredin; 2. Awgrymu Mesurau yn ymwneud â phynciau sydd yn gymharol annadleuol eu natur; 3. Achosi hyn a hyn o oedi a dim mwy wrth i Fesur symud yn ei flaen a mynd yn gyfraith, oedi a fyddo'n caniatáu i farn y genedl gael ei mynegi'n ddigonol arno; 4. Gweithredu fel fforwm ar gyfer trafod cwestiynau polisi cyffredinol megis rhai'n ymwneud â pholisi tramor yn enwedig ar yr adegau hynny pan fo Tŷ'r Cyffredin mor brysur fel na chaniateir iddo wneud hynny.