Swyddogaeth yr Ail Siambr BU'R Ail Siambr yn y wlad hon yn destun trafod gwleidyddol brwd o bryd i'w gilydd yn ystod y pedwar ugain mlynedd diwethaf neu ragor. Fe ddaeth i'r pen gyntaf yn ystod yr argyfwng cyfansoddiadol maith a agorodd y ffordd i Ddeddf y Senedd, 1911; yn ystod cyfnod Mr. Asquith fel Prif Weinidog a phryd y methodd Lloyd George, ac yntau'n Ganghellor y Trysorlys, gael Tŷ'r Arglwyddi i gydsynio â'i Fesur Cyllid enwog. Galwyd y Siambr Uchaf yn 'Pwdl Mr. Balfour' oherwydd y mwyafrif Ceidwadol llethol a oedd ynddi. Ond fe dynnodd Deddf 1911 ddannedd Tŷ'r Arglwyddi a chadarnhau hawl neilltuol Tŷ'r Cyffredin i reoli cyllid y genedl, a sicrhawyd na fedrid gwrthod yr holl ddeddfwriaeth a basiwyd ym mlynyddoedd blaenorol Senedd am byth gan yr Arglwyddi. Mae'n ddiddorol sylwi i'r rhaglith i Ddeddf 1911 ddatgan yn glir 'whereas it is intended to substitute for the House of Lords as it as present exists a Second Chamber on a popular instead of a hereditary basis, but such substitution cannot be immediately brought into operation Mae'n ddiddorol i'r geiriau hyn gael eu cynnwys yn ein llyfr statudau ni ryw ddwy flynedd yn unig cyn gwneud Senedd yr Unol Daleithiau yn ail siambr o wyr a etholwyd yn uniongyrchol ond ni weithredwyd ynghylch troi Tŷ'r Arglwydd yn siambr ar seiliau poblogaidd. Ymosodwyd ar yr egwyddor etifeddol ond nis diddymwyd. Pan oedd yr Arglwyddi wrthi'n gwrthod Mesur Cyllid Lloyd George, fe gyfeiriodd yntau atynt fel 'chwe chant o bobl wedi eu dewis ar hap o blith y di-waith'. Fel canlyniad i Ddeddf 1911 mae mesurau a ardystir gan y Llefarydd yn fesurau cyllid yn mynd yn gyflym trwy Dŷ'r Arglwyddi heb eu diwygio; gwaherddir yr Arglwyddi i bob pwrpas ymarferol rhag trafod mesurau cyllid. Trafodir mesurau cyhoeddus eraill yn Nhy'r Arglwyddi megis yn Nhŷ'r Cyffredin ond fe gyfyngir ar allu'r Arglwyddi gyda golwg ar hyd yr amser a ganiateir iddynt ohirio pasio mesur a anfonir iddynt o Dŷ'r Cyffredin, a chwtogwyd yr amser a bennwyd gan Ddeddf 1911 ymhellach gan Ddeddf Senedd 1949. Y sefyllfa bellach yw: os â Mesur drwy Dŷ'r Cyffredin mewn dau sesiwn olynol (p'un ai o'r un Senedd neu beidio), â chyfnod o flwyddyn o leiaf rhwng ei ail ddarlleniad yn Nhŷ'r Cyffredin am y tro cyntaf a'r trydydd darlleniad am yr eilwaith, gellir ei gyflwyno am Ganiatâd Brenhinol heb gymeradwyaeth yr Arglwyddi. Y mae, yn ymarferol, yn peri oediad effeithiol o 13 mis oddi ar adeg ail ddarlleniad mesur yn Nhŷ'r Cyffredin cyn iddo fynd yn gyfraith. Y mae'r gallu hwn i beri'r oedi yn achosi cryn dipyn o ddigofaint er bod llawer o'r farn nad yw'n ormodol oni olygir i'r ail dy fod yn ddim byd mwy na rhyw fath ar stamp rwber. Y gwrthwynebiad ymarferol, mae'n debyg, yw na all unrhyw Lywodraeth fod yn sicr o allu gwthio ei deddfwriaeth trwy'r Senedd yn ei sesiwn terfynol a mwy na hynny fod Llywodraethau Ceidwadol mewn sefyllfa fanteisiol oherwydd eu mwyafrif naturiol yn Nhŷ'r Arglwyddi. Amddifadwyd Tŷ'r Arglwyddi yn effeithiol felly o'i alluoedd ymarferol gan y Ddwy Ddeddf a enwyd. Y cwestiwn yw a wnaethpwyd ef yn gorff di-rym ac a