Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

dim ond tanlinellu'r gwahaniaeth. Ac nid yw'r emyn enwog 'Tydi a roddaist'yn gwneud dim i oleddfu'r dyfarniad yna. Mae'n wir fod y bardd yn gweddïo fel hyn yn y gerdd honno: 'O cadw ni rhag dyfod oes Heb goron ddrain na chur na chroes'. Ond y gwir yw ei bod yn anodd iawn i unrhyw un ohonom ganu'r geiriau yna gydag arddeliad. Kitchener Davies sy onestaf wrth erfyn ar Dduw i'w arbed rhag 'y gwynt sy'n chwythu lle y mynno'. Mae'n amlwg nad yr un yw effaith dioddefaint ar bawb. Mwyneiddio T. Rowland Hughes a wnaeth yn ôl pob golwg. Ond rhwyll i weld bywyd trwyddi yw llenyddiaeth ar un ystyr, ac mae ffurf y rhwyll yn cyflyru ffurf yr hyn a welir trwyddi. Roedd T. Rowland Hughes wedi etifeddu'i rwyll yn barod gan ei draddodiad llenyddol, gan y gymdeithas y codwyd efynddi, ac mae gwerthoedd y gymdeithas honno wedi'u hymgorffori ynddi. Fe welir rhywfaint o siâp y rhwyll yn y farddoniaeth a gyfansoddodd cyn i'r afiechyd ei oddiweddyd, ac yn ystod ei flynyddoedd olaf ni chafodd ei ysgogi i ymwrthod â'r rhwyll honno. Fe fyddai llenor o gyneddfau gwahanol wedi rhegi angau ac wedi cael ei orfodi i falurio'i rwyll a cheisio gwneud sens dirfodol o fywyd. Ond cydymffurfiwr heb ei ail oedd T. Rowland Hughes, gyda dysgu dygymod yn un o erthyglau pwysicaf ei ffydd. Os cafodd gipolwg ar 'bensyfrdandod bod', chwedl Saunders Lewis, ni roes unrhyw achlust o hynny inni yn ei nofelau. A thanchwa'r Ail Ryfel Byd yn peri fod 'y byd ar bilerau yn siglo'. Fe fyddai gorfod wynebu creisis personol a chreisis gwareiddiad wedi ysigo aml un. Ond yn ofer y chwiliwn yn O Law i Law neu Y Cychwyn am arwyddion o ymbalfalu am ystyr ymysg adfeilion gwareiddiad. Tŷ cartrefol yw bywyd, ac er bod y carped wedi gwisgo tipyn, a lliwiau'r llenni a'r clustogau'n pylu'n raddol, mae bywyd y gymdeithas deuluol yn mynd yn ei flaen yn gymharol ddidramgwydd. Does dim awgrym fod angen ailystyried yr hen safonau. Dyna'r syndod: fod nofelydd o gyfnod yr Ail Ryfel Byd yn gallu bod mor draddodiadol ei agwedd a'i ddull. Cofnodi bywyd fel yr oedd oedd ei amcan — dal realiti mewn geiriau, fel petai, gan beri i hen gymeriadau cyfnod ei ieuenctid frasgamu ar draws tudalennau ei nofelau. Mae'i holl arddull wedi'i gogwyddo i gyfeiriad darlunio pobl fel yr oedden nhw. Rydym i fod i'w gweld, ac i fod i'w clywed yn eu hymgomio bob dydd. A'i lwyddiant i wneud cymaint â hynny sy wedi gwneud T. Rowland Hughes yn nofelydd mor boblogaidd. Fe geisiodd nifer o nofelwyr Cymraeg eraill gyflawni'r un gamp a methu. Mae hi yn gryn gamp, wrth gwrs, yn union fel y mae'n gamp peintio portread realaidd fyw o unrhyw berson: mae'n haws o lawer i'r arlunydd ein twyllo gyda darlun haniaethol sâl. Ond ar ôl cydnabod hynny, rhaid ychwanegu ar unwaith fod ein syniad am realiti wedi'i weddnewid yn llwyr ymhell cyn y pedwardegau. Nid rhywbeth statig i dynnu'i lun unwaith ac am byth mohono, wedi'r cwbl, a'r ffaith eu bod yn sylfaenedig ar yr hen syniad am realiti sy'n peri bod nofelau T. Rowland Hughes braidd yn naïf. Yr oedd rhai o gyfoedion Rowland Hughes eisoes yn symud i gyfeiriadau gwahanol, ac yn dangos gwell dirnadaeth o gymhlethdod bywyd. Yn Y Dewis (1942) a'r Goeden Eirin (1946) llwyddodd John Gwilym