T. Rowland Hughes RWYF yma heddiw i sôn am waith T. Rowland Hughes,* un 0 lenorion gorau'r ganrif hon, y nofelydd nad yw'n ail i neb ond i Ddaniel Owen ei hun (ond rwy'n eithrio nofelwyr sydd ar dir y byw), ac awdur heintus o boblogaidd yn ei ddydd. Dyma lenor a aeth yn ôl at ei wreiddiau a chofnodi yn ei waith arwriaeth gwerin grefyddol a diwylliedig ardaloedd chwareli Arfon. Roedd wedi'i ddonio'n hael â'r gallu i gyfleu rhythmau bywiog iaith lafar Arfon, ac ar ben hynny 'goreu kyuarwyd yn y byd' oedd storïwr tan gamp, ac yn gwybod yn union sut i greu gwên neu dynnu dagrau. Ac o gofio fod ei nofelau i gyd wedi'u llunio mewn cyfnod pan oedd yn ymgodymu â salwch angheuol, mae'i gamp yn ymddangos yn fwy anhygoel fyth. 'Y dewraf o'n hawduron' yn wir. Ond nid cyfarfod teyrnged na chyfarfod coffa mo hwn, er mai yn Llanberis rydym wedi ymgynnull. Gwaith T. Rowland Hughes sy dan sylw nid y dyn. Rydw i am feiddio gwahaniaethu'n ddiamwys fel'na, er y byddai rhai'n ystyried y fath raniad yn bechod anfaddeuol. Un rheswm dros ddewis sôn am y nofelydd yn hytrach na'r dyn yw na wn i ddigon am y T. Rowland Hughes o gig a gwaed. Mae 'na beth wmbredd o bobl yng Nghymru a allai bortreadu'r dyn, ac wrth gwrs mae 'na rai wedi gwneud hynny'n barod. Rheswm arall ydi nad ydw i am i sentiment fy nghydymdeimlad â'r claf yn ei wewyr gymylu fy marn am y nofelau sy mewn print. Wedi'r cyfan bydd raid i'r rheini ddal golau llachar beirniadaeth lenyddol y dyfodol pan fydd yr holl atgofion am y dyn wedi mynd i ebargofiant. Un o baradocsau'r berthynas rhwng bywyd a llenyddiaeth yw y gall rhywbeth sy'n rhinwedd yn y naill fod yn fagl i'r llall. Efallai fod hynawsedd a charedigrwydd yn nodweddion gwych mewn person, ac eto fe allan nhw fod yn wendidau mewn llenor, gan beri i'w waith fod yn ferfaidd a di-gic. Os oedd T. Rowland Hughes y dyn mor fwynaidd â T. Rowland Hughes y nofelydd, mi allaf ddychmygu ei fod yn berson hyfryd i fod yn ei gwmni. Ond efallai nad oedd y dyn hanner mor ddymunol â'r nofelydd. A dyfynnu Alun Oldfield Davies yn y gyfrol Ar Glawr, 'roedd e'n gallu bod yn ddyn pigog'. Mae'n ddigon posib mai'i afiechyd a'i llareiddiodd. Ffrwyth ei afiechyd yw ei nofelau, nhw yw ei destament olaf. Chwilio am ryw fath o eli ar friw y mae ynddynt, a dod o hyd i hwnnw yn ei atgofion. Dyna'i seicoleg, mae'n debyg. Mae T. H. Parry-Williams yn sôn yn un o'i gerddi am wynebu angau'n 'noethlymuno'r tu mewn i'th fodolaeth di'. Ac y mae bardd arall, hollol wahanol iddo ef, sef Kitchener Davies, wedi sgrifennu cerdd gignoeth onest am y noethlymuno hwnnw. Ond er mai person mewnblyg, myfyrgar oedd T. Rowland Hughes yn ôl pob hanes, gydag elfen o bryder yr heipocondriac yn gynhenid ynddo, ychydig o dystiolaeth sydd yna yn ei nofelau ei fod wedi'i orfodi gan ei afiechyd i wynebu truenusrwydd ei gyflwr. Ar lefel ddynol mae hynny'n gwbl ddealladwy. Ond trafod llenyddiaeth yr ydym, a'r gwir yw fod cyfandiroedd o wahaniaeth rhwng cerdd ysgytwol Saunders Lewis 'Gweddi'rterfyn'a'Miwellaf panddaw'rgwanwyn'T. Rowland Hughes. Mae'n amhosib dychmygu Hogia'r Wyddfa'n canu cerdd Saunders Lewis yn y modd lleddf-felys y canasant gerdd T. Rowland Hughes. Nid condemniad yw hynny,