Dychryn, a dechrau yn lew o'r newydd, ond, nefoedd, roedd y rhithm yn aflwydd, yn rhy gyflym. A dyna'r fel y denid ysfa'r dyrfa a'i gyrfa i gyd islaw yn y dref, fel yslêd- y bobl yn eiddgar lu ar garlam. Cynnig ar y canu a'i alar eilwaith, ond araf a diafael oedd eiriol y gerddoriaeth, a slog y dre' islaw yn ymateb i'r synwyrebau yn argoel yr organ trwy gerdded wedyn ac ynni nawr tuag yn ôl yn ddi-drefn yn wysg eu cefnau: gwr o'i gryfder yn arfer berfa yn ei hwyl tuag yn ôl, a dyndod y gwaelodion yn dilyn yn deulu a wnaed yn ddynwaredwyr. Dau blentyn ar hyn a fynnai- mab a merch, mynnu myned o argoel i olwg yr organ ac anian yr organydd, hwythau'n dyheu am yr hawl i glywed eurgan yr organ, ei rhin a dull ei chymeriad iawn, a hynny a fu wrth fodd y ddau'n ymgolli yn y ddawn- dwylo a'u nodiant yn llawn dylanwadau. Ac wele gerddediad y gwaelod yn bobl oedd yn barch at gymeriad hen draddodiad di-drai wrth wrando'r gerddoriaeth yn nirgel rithiau'r organ- rhyfedd fel yr afon- yn datganu i deulu eu dydd drysor y gerddoriaeth sy'n gwynnu'r genedl-