Diwrnod tynnu'r rhaff i lawr Yr oeddem ni, ers sbelan, wedi bod yn sôn Am ddiwrnod mudo ein cymdogion. Nid oedd neb, na ni na nhw, Yn edrych ymlaen at y mudo hwnnw. Yr oedd milltiroedd yn mynd i ddifetha Rhywfaint ar bymtheng mlynedd o gymdogaeth dda. Y mae pellter, heb i neb ddymuno hynny, Yn rhwym o amharu ar agosrwydd dau deulu. j Yr oedd coeden griafol yng nghongol yr ardd Yn wyn yn ei thro, yn ddiferion coch yn ei thro, yn wastad yn hardd. Y goeden hon, ei heiddo hwy oedd hi, Ond plygai ei brigau dros y ffens atom ni. Yr oedd hi gymaint rhyngom ni Nes i un ohonom, yn dair oed, ei meddiannu hi. Cymaint oedd ei feddiant nes y bu iddo, un dydd, Gario iddi ei raff werthfawr a'i chlymu yno trwy ffydd. Ond yno, yng nghangau llawen y griafolen, y bu Am bum mlynedd dda'n dynodi'r meddiannu. Hyd nes y daeth y dydd cyn y mudo, Y dydd cyn rhyw ddiwedd, pryd yr aeth o Dros y ffens a datod, yn drafferthus, y cwlwm mawr, Canys hwn ydoedd diwrnod tynnu'r rhaf i lawr. GWYN THOMAS