ganfod bod Duw yn ei archwilio yntau. Onid wyfyn camddehongli, yr ymresymiad yn yradran hon yw y gellir derbyn y ffordd ryddfrydol o astudio diwinyddiaeth heb ymwrthod â'r pwyslais ar flaenoriaeth yr ysgogiad dwyfol. Mae gwerth mawr i bob darlith fel hon sy'n crynhoi tueddiadau a hanes pwysleisiadau pe na bai ond i'r rheini nad oes ganddynt na'r amser na'r dyfalbarhad i wneud y darllen angenrheidiol. Er hynny 'rwy'n meddwl y byddai mwy o werth i'r ddarlith hon yn y Gymraeg nag yn y Saesneg a hynny am fod y math hwn o arolygu i'w gael mewn gweithiau fel 'Twentieth Century Religious Thought' John Macquarrie, neu 'Systematic and Philosophical Theology' William Nicholls. Mae mwy o'i hangen yn y Gymraeg. Wrth gwrs, 'rwy'n ymwybodol y gall amodau'r weithred sy'n rheoli'r ddarlith wneud hyn yn amhosib. Ond o safbwynt y polareiddio rhwng chwith a de mewn diwinyddiaeth, yn union fel mewn gwleidyddiaeth, rhaid croesawu'r ddarlith fel ymgais i greu tir canol rhwng y ddau eithaf. Mater arall yw dweud a lwyddodd y ddarlith i gyflawni'r amcan hwn a dweud a fydd cymod yn bosib ar sail y gwaith a gyflwynir ynddi. Uandudno E. R. LLOYD-JONES NAN LEWIS, 'Y Gelyn Pennaf a 'Ni'n Dwy: (Gwasg Gomer, 1983.) £ 1.75. 'Y Gelyn Pennaf oedd drama arobryn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a'r Cylch, 1982, ac fe'i llwyfannwyd gan Gwmni Theatr Cymru wedyn ar daith. Fe gafodd y ddrama glod mawr a chwbl haeddiannol gan y beirniad a welodd 'drasiedi'r ddynoliaeth' ynddi. Dim ond tri chymeriad sydd ynddi y tad hanner-gorffwyll, y fam gariadus a'r plentyn diniwed a gwirion (yn ystyr y De!) teulu bach sy'n cynrychioli'r ddynoliaeth gyda'i wendidau a'i ragoriaethau hunanoldeb a drwgdybiaethau a rhagfarnau yn ogystal â diniweidrwydd a chariad a gobaith. Fe welwn y gobaith a'r hyder a'r llawenydd ar ddechrau'r ddrama'n araf bylu yn wyneb y bygythiad sy'n peryglu hapusrwydd y teulu. Bygythiad oddi mewn yw hwn (yn wahanol i amryw drasiediau), bygythiad yn y dychymyg ac ym mhersonoliaeth y tad; ac mae'i orffwylledd yntau'n creu elfennau o dyndra dramatig ac yn arwain at y drasiedi fawr ac athrist ar y diwedd. Mae meistrolaeth yr awdur ar iaith a dialog yn amlwg o'r cychwyn cyntaf. Mae ei defnydd o eiriau'n wefreiddiol ac mae'n eglur ei bod hi'n llenor sy'n ymhyfrydu yn rhin geiriau, gan fod y ddialog yn llawn o 'hyfrydwch barddonol', chwedl y beirniaid. Yn sicr mae hon yn ddrama o bwys ac roedd yn llwyr deiiwng o'r Fedal Ddrama. Nid y lleiaf o'i rhagoriaethau hefyd yw ei bod yn rhagori fel llenyddiaeth yn ogystal. Camp oedd ennill y Fedal Ddrama; dyblwyd y gamp wrth i'r awdur ddod yn fuddugol hefyd ar gystadleuaeth cyfansoddi drama fer, drama syml ond tyner am gariad mam at ei chroten fach. Peth addas oedd cynnwys y ddwy ddrama ynghyd yn yr un gyfrol ddestlus. URIEN WILIAM ROBF.RT R H YS (gol.). Arolwg 1982. (Cwmni Cyhoeddiadau Modern Cymreig. heb ddyddiad.) Tt. Ml. Pris: £ 2.50. Y CWYNO mawr diweddar am y Cymry sy'n derbyn llyfrau i'w hadolygu ac yn esgeuluso sgrifennu'r adolygiadau, hynny a'm symbylodd o'r diwedd (ar ôl cadw Arolwg 1982 am wythnosau heb allu mynd i'rafael a'r gorchwyl adolygawl) i ddechrau sgrifennu. Yr oedd arnaf eithaf awydd cysegru'r adolygiad i'm hamddiffyn fy hun a'm cyd-anadolygwyr; ni wnaf hynny, yn bennaf oherwydd diogi-- ond ni allaf golli'r cyfle i wneud un sylw. Roedd un o'r cwynwyr yn dannod i'r adolygydd fod hwnnw'n cael llyfr gwerthfawr am ddim: rwyf innau wedi hen benderfynu mai ffordd bur gostus i brynu llyfr yw ei adolygu. Go brin y disgwylir gweld yn Y Traethodyddyng nghanol 1984 ymdriniaeth fanwl â chyfrol sydd (yng ngeiriau'r Golygydd) 'yn dilyn patrwm y llynedd trwy gynnwys sylwadau ar fywyd Cymru ym 1982 a hefyd adroddiadau gan gymdeithasau a chyrff cyhoeddus'. Mynegi adwaith i'r casgliad y byddaf, a hynny gyda chryn anesmwythyd, gan fod y Golygydd eisoes wedi troi min beirniadaeth