IORWERTH JONES, Recent Revelation Theology: The Sir David J. James Lecture for 1984. (Gwasg John Penry, Abertawe.) Pris: £ 1. MAE dau beth a ddylai sicrhau diddordeb yn y ddarlith hon a phryniant iddi, ei bod yn perthyn i gyfres darlithoedd Pant y Fedwen, cyfres sydd wedi cyfrannu mor helaeth i lenyddiaeth ddiwinyddol yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf, ac mai'r Parch, Iorwerth Jones yw'r darlithydd. Gwnaeth ef gyfraniad clodwiw dros ben fel Golygydd, Awdur a Phregethwr. Nid wyf am roi crynodeb o'i ddarlith gan mai crynodeb o dueddiadau ydyw hi ei hun mewn ffordd. Ei man cychwyn yw'r adwaith i'r ymosodiad Barthaidd ar Ryddfrydiaeth, ac meddai lorwerth Jones, 'Conservatives subsequently of the old school who esteemed the Bible to be inerrant in toto and the neo-orthodox who were willing to throw overboard the whole apparatus of textual and literary criticism have referred disparagingly to theological liberalism as the prime cause of modern unbelief'. Gan gychwyn yn y fan yna yr hyn a wna'r darlithydd yw ystyried adwaith diwinyddiaeth datguddiad i dri maes lie bu Rhyddfrydiaeth yn cyhoeddi ei chasgliadau: yr agwedd at lesu Hanes. yr agwedd at lythrenoldeb Beiblaidd, ein gwybodaeth o Dduw, ai trwy ddatguddiad ynteu trwy ymchwil dyn amdano. Mae lorwerth Jones yn crybwyll 'y ffordd ryddfrydol o ddod at yr astudiaeth o ddiwinyddiaeth' (the liberal approach to the study of theology), a'i feirniadaeth ar yr adwaith Barthaidd yw iddo wrthod y ffordd ryddfrydol o ddod at ddiwinyddiaeth ynghyd â'r casgliadau rhyddfrydol. Ei ddadl, hyd y gwela' i, yw bod diwinyddiaeth datguddiad yn ddiweddar yn cadw at y ffordd ryddfrydol o astudio diwinyddiaeth heb dderbyn y casgliadau rhyddfrydol fel y cyhoeddid hwy ar ddechrau'r ganrif cyn y chwyldro Barthaidd. Ceisio safbwynt yn y canol y mae rhwng eithafrwydd rhyddfrydiaeth ar y naill law ac eithafrwydd uniongrededd geidwadol ar y llaw arall. Fe ddisgrifiwyd rhyddfrydiaeth John Oman fel rhyddfrydiaeth ar ei gorau, a gellir dweud yr un peth am ryddfrydiaeth lorwerth Jones yn y ddarlith hon. Ond rhaid troi at y tri maes sy'n rhaniadau i'r ddarlith. Y cyntaf yw'r ymgais at ddod o hyd Iesu Hanes ac yr oedd astudiaeth Adolf Harnack o'r dogmâu Cristnogol yn enghraifft o'r dull rhyddfrydol o astudio diwinyddiaeth yn y maes hwn. Y dasg oedd gwahanu ffaith oddi wrth draddodiad, dod o hyd i ffaith o fewn y traddodiad, gwaith a alwai am ddirnadaeth feirniadol graff. Yr hyn a wnaeth yr adwaith Barthaidd oedd diystyru a dirmygu'r ymchwil hanesyddol, ond yr hyn sy'n wir am ddiwinyddiaeth datguddiad diweddar, ac fe'i mynegir yn yr hyn a ddywed Gustav Aulen. yw nad yw'r safbwynt a roes yr lesu daearol o'r neilltu mor ddiseremoni wedi medru dal ei dir. Os felly, dweud y mae'r ddarlith yn yr adran hon y gellir derbyn y pwyslais rhyddfrydol ar bwysigrwydd yr ymchwil am Iesu Hanes heb i hynny fod yn gyfystyr ag ymwrthod â'r pwyslais ar lesu fel y Crist sy'n ddatguddiad o Dduw. Yr ail faes yw'r un sy'n ymwneud â'r dystiolaeth Feiblaidd i'r datguddiad o Dduw. Gan fod Cristnogion o bob traddodiad yn cydnabod bod Iesu o Nasareth yn ganolog i Gristnogaeth a bod ein gwybodaeth amdano Ef a'i ddisgyblion cyntaf yn dod inni drwy'r Beibl, mae'r dystiolaeth Feiblaidd o'r pwys mwyaf. Y farn at ei gilydd ymhlith Cristnogion hyd at ganol y ganrif ddiwethaf, pan ddaeth Beirniadaeth Feiblaidd i amlygrwydd, oedd fod y Beibl drwyddo yn ddatguddiad dwyfol a'i fod i'w dderbyn fel Gair anghyfeiliorn Duw. Crynhoi'r adwaith i Feirniadaeth Feiblaidd a wna'r rhan hon o'r ddarlith a hynny wedi i'r bom Farthaidd ddisgyn ar gae chwarae'r diwinyddion. Safbwynt a ddaeth yn amlycach yn ein canrif ni yw hwnnw sy'n gweld nad yw datguddiad yn cynnig gwybodaeth anffaeledig mewn ffurf osodiadol, eithr yn hytrach yn galw am ufudd-dod yn yr ymgyfarfod personol rhwng y dyfodol a'r dynol. Fe gyfeirir at William Temple a Leon Morris fel cynrychiolwyr y safbwynt yma. Pwynt yr adran hon yw y gellir coleddu diwinyddiaeth geidwadol yr un pryd â derbyn casgliadau Beirniadaeth Feiblaidd. Y trydydd maes yw hwnnw sy'n cydnabod yr ysgogiad Dwyfol fel ffynhonnell gwybodaeth dyn am Dduw, a cheir ysgrifenwyr fel Schleiermacher, James Martineau, a Rufus M. Jones yn cydnabod y pwynt, a hynny yn y dyddiau pan oedd llanw Rhyddfrydiaeth yn gryf ac yn codi a chyn i'r dilyw Barthaidd dorri ar y byd crefyddol. Yr hyn yr oedd Barth yn ei gwestiynu oedd gallu dyn i ymateb mewn unrhyw ffordd, ond maes o law datblygodd gwahaniaeth barn ar y mater ymhlith yr uniongredwyr newydd, fel y dengys y ddadl rhwng Barth a Brunner. Olrhain y pwyslais hwn ar hunan-ddatguddiad Duw a wna Iorwerth Jones yn y rhan hon o'r ddarlith, gan ddyfynnu o W. J. Abraham a Leon Morris a'u pwyslais ar gyfoesedd yr Ysbryd Glân. Y pwyslais mewn diwinyddiaeth ddiweddar mewn perthynas a'r mater dan sylw yw y bydd dyn sy'n ceisio archwilio Duw yn sicr o