olyga'r gyd-berthynas rhwng y goddrych a'r gwrthrych cyfansoddedig sy'n gwneud ymwybyddiaeth yr hyn ydyw ar unrhyw amser arbennig. Bwriadaeth yw'r symudiad o'r goddrych sy'n cyfansoddi'r gwrthrych, a'r symudiad o'r gwrthrych ymddangosiadol sy'n cyfansoddi'r goddrych fel bod ymwybodol. O'r safbwynt hwn daw'n eglur mai gair anffodus yw 'bwriadaeth' gan ei fod yn awgrymu ewyllys a phenderfyniad. Gall y rhain ddigwydd, ond yn amlach yr hyn a ddigwydd yw dechreuad goddefol (passive genesis). Llif ymwybyddiaeth rhwng y goddrych a'r gwrthrych ymdd.angosiadol, felly, yw bwriadaeth. Yn fwriadol ni wneuthum ond cyffwrdd yn ysgafn â syniadau Husserl oherwydd eiddil yw'r berthynas rhwng ffenomenoleg mewn Athroniaeth a ffenomenoleg mewn Astudiaeth Crefydd, ond mae'n amlwg i rai o themâu a thermau Husserl dreiddio i mewn i Ffenomenoleg Crefydd. II Os gofynnwn beth yw prif egwyddorion Ffenomenoleg Crefydd, yn gyntaf ar y rhestr daw disgrifiad dadansoddiadol gofalus. Golyga ymatal rhag rhag- dybiaethau a deongliadau parod er mwyn i'r crefyddau ymddangos yn eu goleuni pur eu hunain. Erlidir pob gorchudd dogmatig a daw nifer o fanteision yn sgil y dull hwn o fynd ati. Yn gyntaf mae'r astudiaeth yn dechrau yn y Ue cywir gyda'r ffenomenau a'r ffeithiau crefyddol. Mae'n wir, wrth gwrs, na ellir meddwl heb safbwynt blaenorol, ond y gamp yw bod yn ddigon meddwl-agored i ganiatáu i'r data crefyddol unioni a chaboli ein safbwyntiau. Mewn gair, mae Ffenomenoleg yn erlid y perygl parhaus o wasgu'r ffeithiau i mewn i fframwaith parod, yn null Procrustes, nes bod delw'r fframwaith ar y ffeithiau a chanlyniad hynny yw na ddeuwn wyneb yn wyneb â'r ffeithiau o gwbl. Yn ail mae eglurdeb yn deillio o'r astudiaeth. Mewn unrhyw bwnc, pwysig yw gwybod am beth y mae dyn yn ei draethu, a themtasiwn mawr mewn crefydd yw defnyddio termau fel dyn, pechod, Duw, datguddiad, heb ymdrafferthu i holi beth yw ystyr y geiriau hyn, neu ymha fodd y maent yn cyfeirio neu ymha gyswllt profiadol yr ymgartrefant. Mantais arall a berthyn i'r astudiaeth yw bod Ffenomenoleg wrth ddisgrifio yn hytrach na didwytho yn adeiladu ar y graig. Mae'n bosibl syrthio i fagl resymegol wrth ddidwytho ond mae disgrifio'n ffenomenolegol a manwl a gofalus yn gosod sylfaen gadarn i'r astudiaeth. Ymddiddora Ffenomenoleg Crefydd mewn patrymau cyffredin o ffydd ac ymarweddiad sy'n torri ar draws y ffiniau rhwng y crefyddau unigol. Ceir proffwydi oddi allan i Israel a chyfrinwyr oddi allan i Grefyddau'r India. Ond efallai mai astudiaeth o fyth a defod sy'n cynnig y deunydd mwyaf addawol i'r ffenomenolegwyr, gan fod nodweddion cyffredinol myth yn cyfeirio at hanfod neu arwyddocâd cyffredin. Un o arloeswyr cynnar y dull ffenomenolegol oedd W. B. Kristensen, gŵr a hanfu o Norwy ac a ddysgodd am lawer blwyddyn ym Mhrifysgol Leiden. Priodol yw sylwi bod traddodiad cyfoethog o astudiaeth ffenomenolegol i'w gael yn yr Iseldiroedd dros y ganrif ddiwethaf. Ond i ddychwelyd at Kristensen, ei lyfr enwocaf yw The Meaning of Religion* ac yn y Rhagymadrodd fe rydd H. Kraemer, a ddilynodd Kristensen i'r Gadair yn Leyden, ddarlun byw o'r dyn wrth sôn amdano wedi ymgolli mewn byd o amgyffrediad crefyddol a fod yn