Ffenomenoleg Crefydd NEWYDD-DDYFODIAD ar y llwyfan academaidd yw Astudiaethau Crefydd, ac mewn gonestrwydd rhaid cyfaddef ein bod o hyd yn chwilio am y canllawiau priodol a'r safonau astudio cywir, sydd wrth gwrs yn ei wneud yn bwnc cyffrous a byw. Daeth un peth yn amlwg iawn yn ystod y chwarter canrif diwethaf o ymchwil yn y maes. Pwnc aml-ochrog yw hwn, yn galw am sawl ffordd o fynd ati, ac erbyn hyn 'rydym yn ddigon cyfarwydd â'r dulliau hanesyddol, anthropolegol, cymdeithasegol, seicolegol a chymharol. Yn yr ysgrif hon carwn ganolbwyntio ar y dull diweddaraf ac, o bosibl, y pwysicaf o'r dulliau i gyd. Dyma'r dull ffenomenolegol, ac er mwyn eglurdeb a hwylustod rhannaf yr ysgrif yn dair rhan, Rhan 1 yn ymwneud â'r cefndir athronyddol, Rhan II â rhai o egwyddorion sylfaenol Ffenomenoleg Crefydd a Rhan III yn cymhwyso'r egwyddorion at rai o'r Crefyddau. I Beth yw Ffenomenoleg? Daw'r gair o wreiddyn Groeg sydd mewn amrywiol ffurfiau yn golygu 'gweld', 'ymddangos"goleuni', etc., a defnyddir y gair am fath arbennig o athroniaeth a luniwyd gan yr Almaenwr, Edmund Husserl, 1859- 1938. Dull o fynd ati ydyw yn hytrach nag athrawiaeth a gellir ei gymhwyso at sawl maes astudiaeth, megis gwyddoniaeth, iaith, moeseg, crefydd. Dwy athroniaeth a lediai'r ffordd yn nydd Husserl, delfrydiaeth ac empeiryddiaeth, ac ymddangosodd y ddwy iddo fel athroniaeth ar goll yn y byd. Er mwyn sefydlu gwybodaeth ar sail ddisigl daliai Husserl y byddai'n rhaid torri'n rhydd o'r cyffion hyn a dychwelyd at yr un peth y gellir bod yn berffaith siwr ohono. Mae hyn yn peri i ddyn feddwl am Descartes gan ei fod yntau wedi ceisio ceibio ymaith bob rhagdybiaeth nes dyfod at yr un casgliad y gallai fod yn sicr ohono, cogito, ergo sum (Meddyliaf, felly yr wyf). Cywiryw'rgymhariaeth. Benthycodd Husserl gan Descartes y dull o amheuaeth radical a theitl un o'i weithiau mawr diwethaf oedd, Myfyrdodau Cartesaidd. Ond credai Husserl nad oedd amheuaeth Descartes yn ddigon radical: nid oes ond un sicrwydd; cogito. Ymwybyddiaeth, heb unrhyw gasgliadau pellach, yw'r unig ffaith y gall ymwybyddiaeth fod yn berffaith sicr ohoni. Ni wedir fod ymwybyddiaeth yn cynnwys ymddangosiadau, ond honnir nad oes lle i ragdybiaethau apriori ynglŷn â natur yr ymddangosiadau hyn, nac am y rialiti sydd y tu cefn iddynt nac ychwaith am yr achosion a barodd iddynt fod. Ymaith â phob rhagdybiaeth ac yn ôl at yr unig sicrwydd, cogito, ymwybyddiaeth; dyna oedd rhaglen Husserl. Heb ymwybyddiaeth, ni fyddem yn gwybod dim, ac felly y dull cywir, ffenomenolegol yw gosod popeth arall o fewn cromfachau, pob rhagdybiaeth, pob dehongliad er mwyn unigoleiddio'r unig sicrwydd. Rhaid deall ymwybyddiaeth yn gyntaf er mwyn deall y canlyniadau mewn celfyddyd neu wyddoniaeth neu grefydd, a defnyddiodd Husserl y gair Groeg epoche am yr ataliad hwn (bracketing out). Egwyddor bwysig arall yng ngwaith Husserl yw'bwriadaeth'(intentionality) a