frodyr i'w gilydd ac yn blant i Dduw. Yn y gwraidd, y mae'r agweddau hyn yn hollol berthnasol i'w gilydd. Fe fydd yr unigolyn sy'n cyrraedd y dimensiwn newydd yn rhan o'r cyflwr newydd sydd i ledaenu drwy'r holl fyd. Ni wn beth ydyw adwaith ysgolheigion beiblaidd ein cyfnod i broffwydoliaeth yr Iesu am y Deyrnas. Er hynny, erys un peth yn sicr. Nid ymddangosodd y Deyrnas mewn grym ac ni ddaeth yr awr dyngedfennol fel y tybiai yr Iesu. O ganlyniad, daeth credinwyr yn araf ond yn sicr i gysylltu eu mynediad i'r Deyrnas i raddau pell iawn â bywyd mewn byd arall. Collwyd sialens fawr y ffydd Gristnogol i blant dynion etifeddu'r Deyrnas fel deiliaid yn y byd sydd ohoni. Erys yr angen sylfaenol i wireddu a phrofi ail gymal syniadaeth yr Iesu, y gobaith i blant dynion ymgyrraedd â thyfu yn y byd hwn i fod yn ddeiliaid yn y dimensiwn newydd. Y mae llawer o ddamhegion yr Iesu ynglyn â'r Deyrnas yn pwysleisio'r tyfiant anorfod o'i mewn. Onid dyma ergyd fawr dameg yr heuwr? Yr had 'a roddes ffrwyth tyfadwy a chynhyrchiol, ac a ddug un ddeg ar hugain, ac un dri ugain, ac un gant'. Y mae geiriau'r Iesu i'w ddisgyblion ar ôl traethu'r ddameg yn ddeifiol, 'Oni wyddoch chwi y ddameg hon? A pha fodd y gwybyddwch yr holl ddamhegion? Ac ni bu ddim dirgel, ond fel y delai i eglurdeb'. Ac eto mewn dameg arall 'y mae teyrnas Dduw, fel pe bwriai ddyn had i'r ddaear'. Rhaid wrth dyfiant, nid oes na phwrpas na gobaith mewn had ond i'r graddau y bydd yn tyfu er i hynny fod mewn modd nad oes deall arno. Portreadir yr un gwirionedd yn nameg gronyn yr had mwstard hithau. Y lleiaf o'r holl hadau 'yn tyfu, ac yn myned yn fwy na'r holl lysiau, ac efe a ddwg ganghennau mawrion; fel y gallo ehediad yr awyr nythu dan ei gysgod ef. Meddai'r Iesu, 'â pha fesur y mesuroch, y mesurir i chwithau; a chwanegir i chwi y rhai a wrandewch. Canys yr hwn y mae ganddo, y rhoddir iddo'. Onid cyfeiriadau sydd yma at y tyfiant anorfod sy'n gwbl nodweddiadol o'r sawl a fynno fod yn ddeiliaid yn y Deyrnas? Ofnaf yn ddirfawr heddiw fod y profiad o dyfiant ar ran credinwyr bron wedi myned yn gwbl ddieithr iddynt. Collwyd yr elfen hanfodol hon o'n hymwybydd- iaeth Gristnogol i raddau pell iawn. Eto yng ngeiriau'r Iesu 'a'r hwn nid oes ganddo, ie yr hyn sydd ganddo a ddygir oddi arno Yn hytrach na sylweddoli arwyddocâd yr agweddau gwaelodol hyn yn y ffydd Gristnogol, cawsom ein meddiannu gan ddiwinyddiaeth canrifoedd cred, diwinyddiaeth sydd wedi cymhlethu a gorchuddio dysgeidiaeth seml ond cwbl hanfodol o eiddo'r Iesu am y Deyrnas. Yr hyn sy'n gwbl eglur a gobeithiol i mi ydyw fod yr agweddau a nodais ynglyn â dysgeidiaeth yr Iesu yn gwbl unol â holl gyraeddiadau esblygiadol dyn. Yr esblygiad mwyaf un ydyw i ddyn gael ei ddyrchafu i ddimensiwn a golud Teyrnas yr Iesu a hynny yn y byd hwn. Ond os cyll y sawl a'u geilw eu hunain yn ddilynwyr yr Iesu y weledigaeth sylfaenol a bortreadir o'r Deyrnas, yna colhr holl gnewyllyn ein ffydd. Gwyn ein byd pe medrem eto dyfu i brofi arwyddocâd a llawenydd yr unigolyn mewn dameg arall o eiddo'r Iesu. Y mae'r Deyrnas yn gyffelyb 'i drysor wedi ei guddio mewn maes'. Wedi ei ddarganfod, y mae dyn yn gwerthu cwbl a feddodd i brynu'r maes er sicrhau'r trysor a meddiannu'r Deyrnas. Coleg y Brifysgol, Bangor DAFYDD WYN PARRY