Pysg, helwriaeth, pob pasgedig Dant a llygad sydd yn denu; Hyn welaf fi, ond y diafol ei hun Yng nghalon pob un sy'n crechwenu. Chwi Arglwydd, cwn o Gymry! Oni chyferchwch well i mi? Onid oes un bardd o Gymro I ganu clod eich brenin chwi?" Syllai'n fud y gwesteion i gyd Y naill yn wyneb y llall; Nes gwelwi angerdd dig a llid A dyfod ofn di-ball. Tawodd geiriau, distawodd lleisiau Ataliwyd pob anadliad cryf; A gwallt ei ben fel colomen wen, Hen fardd gyfodai'n hyf. "Wele un a gân dy glodydd, Frenin", meddai'r henwr gwyn, Swn arfau'n taro a chadwyni'n rhugno A glywid ar ei dannau tynn. "Arfau'n taro, cadwyni'n rhugno Ar waed y disgyn haul i lawr, Aroglau celain yn denu'r cigfrain. Frenin, wele dy orchest fawr! Miloedd fel ystodau gwaedlyd Sydd yn gorwedd ar y llawr, A'r ffoadur sydd yn wylo. Frenin, wele dy orchest fawr!" Gorchmynnai'r brenin "Ymaith a'i gân! Rhy gas im i'w fwynhau" Rhaid imi wrth dynerach cân Daw eto fardd sy'n iau: "Ar dyner hynt daw'r hwyrol wynt Dros harbwr Cleddau draw, Ond cri morynion a galar gweddwon Yw'r neges arni ddaw O! fam na esgor ar daeog hil, Na'i magu ar dy fronnau Ar air y brenin gyrrwyd ef Ar ôl yr hen i'r fflamau.