Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiadau C. S. LEWIS, Yn Ôl i Wernyfed, addasiad Edmund T. Owen. Gwasg Efengylaidd Cymru, 1984. Tt. 179. Pris: £ 1.75. NID yn ami yr adolygir llyfr i blant ar dudalennau'r Traethodydd. Ond wedyn, nid yn aml yr ysgrifennir llyfr i blant gan ysgolhaig disglair (yn yr achos hwn, Cymrawd Coleg Magdalen, Rhydychen, ac Athro Llenyddiaeth yr Oesoedd Canol a'r Dadeni yng Nghaergrawnt) a llyfr i blant am wlad ddychmygol Ue mae corachod yn byw, lle mae anifeiliaid yn siarad, lle mae hud a lledrith ym mhob twll a chornel. Beth a ddigwyddodd? Byw mewn twr ifori academaidd wedi troi ei feddwl? Ymwneud beunyddiol â myfyrwyr wedi ei yrru i geisio dihangfa mewn ffantasi? Go brin. 'Yn y rhan fwyaf o lefydd a chyfnodau', medd C. S. Lewis ei hun, 'ni luniwyd y stori hud yn arbennig ar gyfer plant, nac i'w mwynhau yn unig ganddynt hwy.' Yr hyn a wnaeth y llenor a'r ysgolhaig hwn oedd mynd ati'n fwriadol i ddewis y ffurf lenyddol hon er mwyn mynegi ei ddawn greadigol ddiamheuol. Ei 'Chronicles of Narnia' yw un o'r enghreifftiau enwocaf o storiau i 'blant dan gant' yn y ganrif hon, ac maent wedi bod yn hynod o boblogaidd: fe\i cyhoeddwyd gan saith gwmni gwahanol er eu hymddangosiad cyntaf ym 1951, a bu un o'r rhain yn eu hadargraffu bedwar ar ddeg o weithiau rhwng 1963 a 1974. Pleser mawr yw cael rhai o'r cyfrolau hyn yn Gymraeg bellach. Addaswyd The Lion, The Witch, and The Wardrobe eisoes (Y Llew a'r Wrach): yn awr dyma groesawu fersiwn Cymraeg o Prince Caspian: The Return to Narnia. Ond beth a ddenodd C. S. Lewis at y ffurf hon? Yn un peth, mae hi'n caniatáu rhyddid llwyr iddo i adrodd stori dda heb orfod glynu wrth gonfensiynau achyfyngiadau ein byd amser-a-lle arferol. Ac mae hi'n stori dda yn llawn cynnwrf a chyffro, ac ambell dro annisgwyl ynddi, y cyfan yn symud i uchafbwynt dramatig. Mae yma arwyr, drwgweithredwyr, diweddglo hapus ar ôl peth cnoi ewinedd elfennau hanfodol pob stori hud werth ei halen. Gwell i mi beidio â datgelu rhagor, ond mae'n amlwg fod ffurf ffantasi yn rhoi pob cyfle i ddychymyg cyfoethog a bywiog yr awdur i'w fwynhau ei hun, a sicrhau yr un pryd fwynhad a boddhad i'r darllenydd. Ond dewiswyd y ffurf hon am reswm arall hefyd. Cristion oedd C. S. Lewis, un o ladmeryddion craffaf Cristnogaeth Feiblaidd hanesyddol yn ystod hanner cyntaf y ganrif hon, ac fe welai'n glir fod modd cyflwyno rhai agweddau ar y ffydd drwy ddull ffantasi. Nid dameg Gristnogol fel y cyfryw yw'r stori hon, nac alegori yn null Taith y Pererin chwaith, ond ymgais i gyfleu ambell gyfatebiaeth â gwirioneddau'r ffydd Gristnogol. Efallai fod y gair 'ymgais' yn rhy gryf yn y cyd-destun hwn: 'Ymwthiai'r elfen Gristnogol i mewn o dipyn i beth ohono'i hun. Yr oedd hi'n rhan o'r bwrlwm', oedd tystiolaeth yr awdur. Ond mae hi yno yn bendant. Nid Crist mo Aslan, er enghraifft, ond mae cyfatebiaeth amlwg rhyngddynt: yn Aslan cawn awgrym o'r ffurf y buasai Crist yn ei chymryd petasai'n byw yng ngwlad ddychmygol Narnia. Diddorol a buddiol yw chwilio am y cyfatebiaethau hyn, oherwydd drwyddynt daw deimensiwn newydd a dyfnach i'r stori. Dyma 'ffuglen Gristnogol' ar ei gorau, o bosibl, heb ei chyfyngu gan yr ystrydebaeth sydd mor anodd ei hosgoi mewn ffurfiau llenyddol mwy confensiynol. Un gair am addasiad Edmund Owen a champus yw'r gair hwnnw. Llwydda rhyfeddol i gyfleu naws y gyfrol wreiddiol. Bron na ddywedwn iddo wella tipyn arni: onid oes mwy o swyn yn 'Gwemyfed' nag yn 'Namia', yn 'Cilfach-y-morlo' nag yn 'Glasswater', yn 'Maes Cedron' nag yn 'Beruna"? Ychydig o lithriadau sydd, a thrwyddi draw mae'r iaith nid yn unig yn hynod o loyw ond hefyd yn gweddu i'r dim i'r awyrgylch hudol. Gwn am un myfyriwr ymch wil tra dysgedig a fethodd ollwng Y Uew a 'r Wrach o'i ddwylo hyd nes iddo orffen y tudalen olaf 011 ac yna allan ag ef yn syth i brynu'r gyfres gyfan yn Saesneg. Mawr obeithiwn y caiff Edmund Owen y cyfle i addasu gweddill y gyfres i'r Gymraeg, a hynny ar fyrder. Bydd croeso cynnes iawn iddynt gan blant o bob oed. Adran Efrydiau Allanol, Aberystwyth. GWYN DAVIES