Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiad DEWI EIRUG DAVIES. Diwinyddiaeth yng Nghymru 1927-77. Gwasg Gomer, 1984. Pris: £ 10.50. BUOM droeon, mae'n siwr, yn syllu ar silff o lyfrau newydd mewn Llyfrgell ac yn codi llyfr ac yn gweld mai ffrwyth ymchwil ydoedd ar gyfer gradd, ac yn rhyfeddu at ysgolheictod y gwaith ac ar yr un pryd yn synnu bod gwaith mor astrus ysgolheigaidd yn cael ei gynnig i'r cyhoedd, ond dyma gyfrol sydd wedi ennill gradd Ph.D. i'w hawdur ac ar yr un pryd yn waith y gall unrhyw Gymro gweddol ddiwylliedig ei ddarllen a'i fwynhau. Ond yr hyn a'm trawodd i gyntaf oedd gwedd a diwyg y gyfrol a'i chrefftwaith cain yn gyfrol esmwyth i'r llaw a'r llygad nodweddiadol o gynnyrch Gwasg Gomer. Ac ni ddylai neb bellach ddigio wrth y gair 'Diwinyddiaeth'. Yn ei lyfr, Meistri a'u Crefft mae gan Saunders Lewis sylw trawiadol Y mae cyflwr crefydd a'r meddwl crefyddol yng Nghymru yn mennu ar ein holl ddiwylliant ac ar ein holl lenyddiaeth ni'. Bydd y gyfrol hon yn ategu'r sylw hwn ac yn lledu ei ystyr. Ond wrth gydio yn y gyfrol hon ni allwn lai na chofio am gyfrol Gwili, Hanfod Duw a Pherson Crist -llyfr ar Ddiwinyddiaeth bron ar yr un patrwm â hwn, ond llyfr y methais i erioed ei ddarllen o'i gwr er fy mod wedi troi iddo ar adegau am gyfeiriadau hen lymbar o lyfr anhylaw a'i bapur garw bron fel papur tywod ysgolheigaidd, mae'n wir, ond anystwyth ym mhob ystyr. Mor wahanol yw hwn. Arolwg o hanner can mlynedd o Ddiwinyddiaeth yng Nghymru y maes enfawr wedi ei rannu'n benodau hwylus; llyfr a allai'n rhwydd fod wedi mynd yn gatalog o enwau a phynciau ond arbedwyd ni rhag hynny. Rhaid i ni sylweddoli hefyd mai cynnyrch athro a phrifathro ydyw mewn Coleg Diwinyddol, a sylweddoli gwerth sefydliad o'r fath yn rhoi cyfle iddo i wneud y gwaith ymchwil. Bydd y gyfrol o werth mawr i offeiriad a gweinidog a lleygwr i adnabod y graig y naddwyd hwy ohoni, pa un bynnag a ydynt yn arddel y graig honno ai peidio. Cymwynas fawr fu achub erthyglau gwerthfawr rhag eu gadael dan gladd yn y cylchgronau a diddorol i rai ohonom a gafodd y fraint o ddarllen rhai o'r erthyglau hyn adeg eu cyhoeddi ac a glywodd y pregethwyr a gwrando ar eu dadleuon yw cael mynd ar daith eto dan arweiniad un sydd wedi ymgydnabyddu â'r wlad. Yn ei Ragair dywed yr Athro J. E. Caerwyn Williams y gellir ystyried y gyfrol hon yn ychwanegiad at gyfrolau hynod bwysig y Prifathro R. Tudur Jones,'Ffydd ac Argyfwng Cenedl 1890-1914'. Dywed y dylai'r gyfrol gael yr un croeso, 'oblegid', meddai, 'yma ceir gweld Cristionogion o Gymry yn ceisio gweithio allan oblygiadau eu ffydd mewn byd mwy gelyniaethus fyth ac mewn byd sydd yn peryglu nid yn unig einioes y genedl Gymraeg eithr hefyd einioes dynoliaeth'. Cydnabyddwn hefyd ein dyled i'r,awdur am ddwy gyfrol arall sy'n arddel perthynas â'r gyfrol hon sef, Arweiniad i Athrawiaeth Gristionogol 1969, a Gwinllan a Roddwyd 1972, testun camarweiniol, braidd. O'm rhan i dylid fod wedi arddel a chynnwys y gair'Diwinyddiaeth', 0 leiaf fel is-deitl, megis'Diwinyddiaeth Cenedl'. Ar y darlleniad cyntaf yr oeddwn yn cwyno nad oedd Mynegai i destunau'r gyfrol fel sydd i'r Personau ond mae'r saith pennod wedi eu dosbarthu dan is-benawdau yn ddigon hwylus, ond fe fuasai Mynegai Testunau wedi bod yn fantais. I gael gwared â man gwynion mewn llyfr mor ddifrycheulyd nodaf a ganlyn arferyr awdur oysgrifennu, e.e., 'yn I934'yn lle'ym 1934'uniaethu â' a ddewiswn i ac nid 'hunaniaethu â' sy'n swnio'n drwsgl ar brydiau. 'lesu' yw'r enw ac nid 'yr Iesu' (53 a passim). Ac ynglỳn â'r clerigwyr, eglurir weithiau yng nghorff y gyfrol, dro arall yn y mynegai pwy yw Esgob Bangor (160), Esgob Tyddewi (190), Deon Tyddewi (188). Dyna gawl fyddai hi pe cyfeirid at bob esgob o Weinidog fel Gweinidog Llanbedr, neu Lanerchymedd neu ryw Lan arall heb gyfeirio'n benodol ato wrth ei enw. Acynglŷnâ'r'Outline'(15I). Ai Outline W. N. Clarke oedd hwn ym 1898? Manion hefyd i'w cywiro n' a'i phen i lawr tud. 81, llinell 5, a 'hyd yn' yn lle 'hyn' yn y nodiad (170), 7 llinell o'r gwaelod. Un peth arall, anodd ar brydiau pan fydd yr awdur yn dyfynnu, a dyna yw crynswth y llyfr, yw gwybod pa bryd y mae'r dyfyniad yn gorffen a pha bryd y mae'r awdur yn mynegi ei farn ei hun. Mae'n amlwg ar brydiau, ond nid bob tro. Mae'n arolwg hanner can mlynedd, cyfnod dau Ryfel Byd a dirwasgiadau economaidd, Comiwnyddiaeth Rwsia, Natsiaeth yr Almaen, Ffasgaeth yr Eidal, phenomenau newydd yn hanes y byd, Rhyfel cartrefol Sbaen ideolegau a gostiodd filiynau o fywydau; geni'r Trydydd Byd, Asia, Affrica, Cynghrair y Cenhedloedd, codiad a machlud y Cenhedlodd Unedig, dyfodiad y sinema, radio, teledu, y Wladwriaeth Les a phawb ohonom ym mha gyflwr bynnag yr oeddym ynddo yn