LLANGYNWYD Tiriogaeth y ddeunawfed ganrif wyt ti. Wrth ddringo atat o rialtwch diwydiannol y cwm synhwyrwn hen, hen iasau. Yma y brasgamodd heibio y gwr o Drefflemin yn cywiro'n ddi-amynedd dybiaethau ffôl ei gydoeswyr. Un o dywysogion Tir Iarll oedd Iolo, â phantheon ei deyrnas hud yn dwyn tegwch ei Forgannwg allan o'r tywyllwch euog. Mae stori dy amseroedd yn agor llwybrau llachar drwy hen niwloedd rhamant. Nid rhithiau fu'n tramwy yma; mae'r wefr Gatholig yn dal yn y gwynt, a'r cof am y lluoedd defosiynol gerbron y Grôg yn Llangynwyd. Yma, yn yr erw dawel y mae'n gorwedd Samuel Jones, Brynllywarch, ysgolhaig a Phiwritan, y gwr cymhleth â'r enw syml. Yn dy gynteddau di ni fedrwn anghofio'r beddau. Y cof plentyn am gynhebrwng yn llinell ddu afrosgo yn troelli'n ddi-ddiwedd, y ceffylau du a'r hers a'r dorf dawedog yn gweld gwr mawr wedi syrthio yn Israel. Dyna'r dyb grediniol oblegidcladdwyd yma unwaith y Postfeistr Cyffredinol; a'r glowyr wedi ffoli am iddo gyrraedd top yr ysgol.