Diffyg mawr ein casgliadau Cymraeg ydi nad oes digon o'r symlrwydd uniongyrchol a geir mewn casgliadau di-rif yn Saesneg: yr emynwyr yn ceisio bod yn rhy farddonol, neu'n ailadrodd yr hen ystrydebau yn union yn yr un ffordd ag emynwyr y gorffennol, a'r cerddorion yn anelu at gordiau rhy gymhleth. Pwysleisir yn y Rhagair fod 'hanfodion y Ffydd Gristnogol yn aros yr un o hyd'. Digon gwir. Ond y mae lIe i fynegiant newydd ohonynt mewn idiomau a geirfa gyfoes. Yn wir y mae angen hynny os ydym am apelio at ddychymyg a brwdfrydedd plant a phobl ifanc ein cyfnod ni. Fe geir y peth yn y canu pop diweddar, ond ychydig o ddylanwad hwnnw a geir ar yr un o'r casgliadau na'r detholiadau newydd yn y Gymraeg. Da gweld yn y casgliad hwn fod Arglwydd y Ddawns (Sydney Carter), Kwmbayah, a Hatherop Castle (Geoffrey Beaumont) wedi eu cynnwys, yn ogystal â'r dôn boblogaidd a deniadol newydd gan Arnold Lewis, Rhoddion Duw, ar eiriau clir a syml W. Rhys Nicholas. Da hefyd gweld mai ychydig o ddylanwad Sankey a Moody sydd arno. Yr oedd arddull S. ac M. yn briodol i'w cyfnod eu hunain, ond erbyn heddiw y mae rhythmau'r canu poblogaidd wedi newid. Dawn y diwygwyr ymhob cyfnod, gan gynnwys Luther, Pantycelyn, a Sankey a Moody, ydi gosod emynau i bwrpas cenhadu yn arddull boblogaidd eu cyfnod eu hunain. O droi at y gerddoriaeth, y mae llawer o bethau canmoladwy yn y gyfrol hon: gwaith cerddorion clasurol fel Handel, Mozart, Brahms a Schubert, sydd â'r trefniadau o'u darnau poblogaidd yn eitha cyfarwydd inni erbyn hyn; alawon deniadol o wledydd eraill fel Au Clair de la Lune a Sari Marais; tonau clasurol o waith rhai fel Bach, Cruger ac Orlando Gibbons; a thonau Seisnig urddasol gan gyfansoddwyr diweddar fel Vaughan Williams, Basil Harwood a John Ireland; ac yn olaf, gwaith rhai o'n cyfansoddwyr Cymreig cyfoes fel Alun Hoddinott, William Mathias, Meirion Williams a Dilys Elwyn Edwards. Llawenydd mawr i mi ydi gweld tonau o lyfr y Methodistiaid yma na fu chwarter digon o ganu arnyn nhw 0 leiaf gan y Presbyteriaid fel Pontmorlais gan E. T. Davies (ar emyn cadarn a gwreiddiol gan Pennar Davies) a Tangnefedd gan Olive Valerie Williams-Davies. Ond paham, tybed, yr anwybuwyd yn llwyr waith David Evans? Mae'n wir iddo gyfansoddi llawer o donau digon di-fflach ac iddo wthio gormod o'i waith ei hun (fel pob golygydd!) i'r ddau lyfr tonau y bu'n gyfrifol amdanynt, ond y mae Ynysfach yn haeddu Ue mewn unrhyw gasgliad Cymraeg, ac y mae ei dôn i blant, Henllan, ar eiriau Thomas Levi, 'Arglwydd Iesu'r Ceidwad mawr', yn un o'r goreuon, yn fy marn i, gyda'r ailadrodd celfydd ac effeithiol o'r llinell olaf. Ychwanegir at werth y gyfrol hon gan y salmdonau, y darlleniadau o'r ysgrythur, a'r gweddiau ar y diwedd. Ond unwaith eto gallai'r gweddïau fod yn llawer symlach eu hiaith ac yn nes at fyd y plentyn. Hyd y gwelaf, 'does yr un ohonynt yn gymwys ar gyfer y plant lleiaf, ac y mae'n amheus gennyf a yw ymadroddion fel 'ym mherffaith ryddid dy wasanaeth Di' a 'bywha Di ein cydwybod, O! Dduw, â'th sancteiddrwydd' yn debyg o gyfleu llawer i blant o unrhyw oedran, ond y rhai hynaf, efallai. Ond ar y diwedd yma, brysiaf i ganmol yr Annibynwyr am gasgliad graenus o emynau a thonau a ddylai fod yn ddefnyddiol a bendithiol i'r holl eglwysi ac ysgolion Sul. Y mae'r argraffu a'r rhwymo, fel y gellid disgwyl gan Wasg John Penry, yn gelfydd a glân. Un camgymeriad bychan y sylwais i arno: 147 ddylai rhif yr emyn fod ar dudalen 129, ac nid 145. HARRI WILLIAMS. W. RHYS NICHOLAS, Cerddi Mawl (Abertawe. T9 John Penry). Clawr Caled £ 2.50; Clawr Meddal £ 1.50. GLYN TUDWAL JONES, Cymorth Cyn Cymuno (Abertawe. Tŷ John Penry) £ 1.50. TASG anodd yw llunio emyn cyfoes. Bodlon yw'r mwyafrif o'n hemynwyr i lunio penillion yn y dull traddodiadol: yr un mesurau ag yn y gorffennol, yr un eirfa a'r un odlau. Y mae hyn yn debyg o sicrhau y bydd yr emynau'n cael eu canu ar y tonau cyfarwydd, y cynhwysir rhai mewn detholiadau a hynny'n golygu y bydd cynulliadau niferus a brwd yn eu canu mewn cymanfaoedd; a phwy ŵyr na ddaw'r nefol fraint o glywed y geiriau ar Ganiadaeth y Cysegr a siec o drigain ceiniog yn cyrraedd yr awdur ymhen rhyw ddau fis o goffrau'r BBC? Ond pa werth sydd mewn emynau o'r fath? Onid gwell canu'r emynau mawr clasurol na'r dynwarediadau ohonynt gan emynwyr diweddar? A oes unrhyw bwrpas mewn cyhoeddi emynau na