Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

yn feichus anniddorol ac undonog a diawen', (t. 107) ac nid yw'n gochel ychwaith rhag condemnio'r 'sentimentalwch' ym mhryddest Caradog Prichard 'Y Briodas' (t.8), y moesoli nai 1 yn straeon dych- an D. J. Williams (t. 28), a'r cerddi 'nad ydynt yn llwyr gampus' yn Dail Pren (t. 57). Ceir ganddo hefyd sylwadau llym ar adolygwyr Cymraeg (t.18) ac ar ysgrifenwyr Cymraeg yn gyffredinol am iddynt esgeuluso myfyrdod a defnyddio ein llenyddiaeth 'fel moddion defnyddiol i gadw'r iaith yn fyw' a dim mwy (t.21). Nodweddir y cwbl o feirniadaeth Saunders Lewis gan wreiddioldeb ac annibyniaeth barn ond hefyd gan dreiddgarwch sy'n ei alluogi i wneud llenyddiaeth yn rhywbeth byw a gwefreiddiol. Yn ei erthyglau ar 'Y Wraig Weddw', un o Chwedlau Saith Doethion Rhufain, a 'Gyrfa Filwrol Guto'r Glyn', er enghraifft, llwydda i wneud llenyddiaeth Cymraeg Canol yn berthnasol ac yn ystyrlon i ddarllenwyr yr ugeinfed ganrif gan gyfuno neges wleidyddol gyfoes â beirniadaeth lenyddol graff a dysgedig. Fel yn nramâu Saunders Lewis, ceir ambell dro yn ei erthyglau beirniadol elfen ddiarhebol sydd yn amheuthun. 'Y mae llenyddiaeth pob cenedl hen yn gyfrinach fawr. Eithriad yw'r estron yr agorer y gyfrinach iddo', meddai wrth ymdrin â chyfieithiadau Thomas Hudson-Williams (t.13). 'Act sacramentaidd yw cofio meddai wedyn yn ei erthygl ar Plasau'r Brenin (t.51). Y mae Meistri a'u Crefft yn llyfr o feirniadaeth lenyddol graff a difyr gan un o brif feistri ein traddodiad llenyddol. Teifl erthyglau Saunders Lewis oleuni ar waith amrywiaeth mawr o awduron a beirdd ond y maent hefyd yn taflu goleuni ar waith creadigol Saunders Lewis ei hun a dylanwad llenorion megis T. H. Parry-Williams a J. R. Jones arno. Cyfrol 'gyffrous a phwysig' yw disgrifiad Patrick J. Donovan, golygydd Cyfres Clasuron yr Academi, o'r llyfr hwn a buan y daw'r darllenydd i'r un casgliad. RHISIART HINCKS CANIEDYDD YR IFANC (T9 John Penry) £ 4.50. YM 1949 y cyhoeddodd y Presbyteriaid Emynau a Thonau'r Plant (er bod y rhan fwyaf o'r gwaith arno wedi'i gwblhau cyn y rhyfel), ac ym 1968 y cyhoeddwyd Mawl yr Ifanc gan y Bedyddwyr, dan olygyddiaeth D. Eirwyn Morgan a John Hughes. Yn y Rhagair i'r olaf dywedir: 'Yn y casgliad hwn ceir emynau a charolau addas i blant bychain, wrth gwrs, ond barnwyd mai'r emynau gorau i rai dros ddeng mlwydd oed yw emynau clasurol a rhai a fwriadwyd ar gyfer cynulleidfa o bob oedran'. Yn unol â hyn ceir ynddo lawer o waith emynwyr mawr y gorffennol: naw o emynau Pantycelyn, er enghraifft (dim ond un ganddo sydd yn llyfr y Presbyteriaid!) ac emynau gan rai fel Dafydd Jones, Ann Griffiths, Isaac Watts a Charles Wesley. Yn awr dyma'r Annibynwyr wedi cyhoeddi Caniedydd yr Ifanc, a chynifer ag wyth yn olygyddion iddo, yn cynnwys tri cherddor, Alun Davies, Gerallt Evans ac Alun Guy. Dywedir yn y Rhagair fod llawer o'r emynau a gynhwysir 'yn addas i bob oed fel ei gilydd i'w canu mewn cynulleidfaoedd cymysg o bob oed'. Golyga hyn fod yn y casgliad hwn hefyd lawer o'r emynau mawr clasurol, yn ogystal â rhai emynau newydd na fwriadwyd yn arbennig ar gyfer rhai ifanc. Cyfyd hyn gwestiwn diddorol: I ba raddau y dylem ddisgwyl i blant ganu geiriau sy'n annealladwy iddynt a chanu am brofiadau sydd ymhell iawn o'u byd? (Ond o ran hynny, efallai y gellir gofyn yr un cwestiwn heddiw ynglŷn â rhai sy'n hyn na phlant!) A beth am onestrwydd a didwylledd pan gana'r plentyn bethau nad ydyn nhw ddim yn deimlad a phrofiad iddo'i hun? Un ateb a roir a dydw i ddim yn siwr ydi o'n un boddhaol yw fod canu'r profiadau yn gymorth i gael y profiadau. Ond gwaetha'r modd, y mae llawer o ganu yn ein cynulliadau, gan blant a rhai mewn oed, nad yw'n ddim namyn morio hwyliog ar swn y miwsig. Ymhlith emynwyr y gyfrol hon gwelir enwau rhai o'n beirdd diweddar megis Gwyn Thomas, Eirian Davies, Pennar Davies, Dyfnallt Morgan, Thomas Parry a Bryn. Williams. Ac i blant, a ellir gwella ar eiriau syml ac uniongyrchol Gwyn Thomas (117), ar alaw Ffrengig hollol syml, Savez-Vous, a drefnwyd gan Alun Guy? Wyddoch chwi pwy wnaeth yr haf? Neb ond Duw. Neb ond Duw. Pwy a wnaeth y tywydd braf? Neb ond Duw. Neb ond Duw