weinidogaeth mor ddigwestiwn ag y bydd bechgyn heddiw yn cymryd eu Ue yn y ciw dôl; ac fe'i gadawodd hefyd, i fynd yn athro, heb ddangos arwydd o frwydr fewnol ddirdynnol. Rhennir y gyfrol yn eitha' cyfartal o ran cynnwys wyth pennod i sôn am gefndir teuluol, plentyndod a dyddiau ysgol yr awdur, a saith wedyn i drafod dyddiau coleg a'i yrfa fel gweinidog ac athro (gan gynnwys pennod olaf nad yw'n gwneud y tro o gwbl fel diweddglo i'r gwaith). Er bod hwn yn drefniant taclus nid yw o reidrwydd yn rhinwedd mewn hunangofiant yn wir gellid dadlau mai'r penodau sy'n trafod cefndir teuluol a dylanwadau bore oes yw'r rhai mwyaf treiddgar-ddeallus a difyr, at ei gilydd, mewn hunangofiannau. Pan ddaw dyn at gyfnodau diweddarach yn ei hanes mae tuedd ynddo wedyn, yn gwbl naturiol, i geisio cyfiawnhau ei lwybr yn y byd, ac yn aml fe chwelir yr awyrgylch a grewyd yn y penodau cynnar. Cefais flas arbennig ar benodau 2-6 yn y gwaith dan sylw, ac er na welir ynddynt y manylder cariadus hwnnw wrth ail-greu byd coll a geir gan yr hunangofianwyr gorau, eto mae yma gyffyrddiadau boddhaol iawn. Bydd rhai o'r portreadau o'r 'cymeriadau diddan' yn aros yn y cof yn enwedig Howell Jones, Pantroity (t.93 ymlaen), John Jones, Waunfawr (t.98 ymlaen), a Dafi Griffi (t.41 ymlaen) — ac fe gofnodir dawn dweud y brawd hwnnw yn ddeheuig iawn yn nhafodiaith sir Benfro. Yr oeddwn i'n dyheu am gael gwybod mwy am deulu Treto, Tre-lech (cartref ysbrydol y teulu) ac am gymdeithas forwrol/amaethyddol ardal Trewyddel. Gobeithio y caiffyr awdur gyfle i ddychwelyd i'r meysydd hyn eto, a'u trafod yn fanylach, gan osgoi'r sylwadau dianghenraid y cwynwyd eisoes yn eu cylch. Am y rhesymau a nodwyd 'rwy'n amau a fydd 'na lawer o ddarllenwyr cwbl ddierth yn prynu a mwynhau BlasarFyw; ond dylid ychwanegu ar unwaith mai ar gyfer cyfeillion a chydnabod niferus yr awdur y cofnodwyd yr atgofion, a bydd y rheini, 'rwy'n siwr, yn diolch i J. Derfel Rees am ei gymwynas. Gwn i'r gyfrol werthu'n dda iawn yn ardal Caerfyrddin (bu J.D.R. yn weinidog yng Nghonwil a Llangeler) a thebyg iawn mai'r un yw'r stori yn y cylchoedd eraill y bu'r awdur yn eu gwasanaethu. Ac mae gwerthiant uchel, wedi'r cyfan, yn ddadleuwr taer iawn o blaid unrhyw gyfrol o ryddiaith Gymraeg. Coleg y Brifysgol, Abertawe. ROBERT RHYS SAUNDERS LEWIS, Meistria'u Crefft (gol. Gwynn ap Gwilym. Gwasg Prifysgol Cymru ar ran yr Academi Gymreig, 1981). Tud. ix, 292. Pris £ 8.95. ANODD yw cloriannu gwaith gwr mor eithriadol ac amryddawn â J. Saunders Lewis, sydd wedi cyfrannu i fywyd llenyddol Cymru fel dramodydd, nofelydd, gwleidydd ac ysgolhaig yn ogystal ag fel beirniad llenyddol. A chymryd ei feirniadaeth lenyddol yn unig y mae ehangder a dyfnder ei gyfraniad yn ysgubol. Saif ei gyfrol Braslun o Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1535, a gyhoeddwyd ym 1932, yn garreg filltir yn hanes beirniadaeth lenyddol Gymraeg a chydnabyddir bod Meistri'r Canrifoedd, detholiad o'i feirniadaeth lenyddol a gyhoeddwyd ym 1973 dan olygyddiaeth R. Geraint Gruffydd, yn un o'n clasuron. Yn awr dyma Meistri a'u Crefft, detholiad newydd a gwahanol o feirniadaeth lenyddol Saunders Lewis a chyfrol a fydd wrth fodd pawb sydd yn ymddiddori yn Uenyddiaeth Cymru neu'n ei hastudio. Cynnwys y gyfrol 48 o erthyglau, 46 ohonynt yn adargraffiadau o erthyglau a gyhoeddwyd rhwng 1923 a 1978, a dwy'n erthyglau a ysgrifennwyd ar gyfer y gyfrol ei hun, sef 'Gutyn Owain' a 'Siôn Cent'. Y mae cwmpas yr erthyglau'n fawr oherwydd nid yn unig y ceir yma feirniadaeth ar waith llenorion Cymraeg y ganrif hon, megis Kate Roberts, T. H. Parry-Williams, D. J. Williams, Waldo a Robert Williams Parry (sef cynnwys Adran 1, tt. 1—85), beirniadaeth ar waith llenorion Cymraeg o'r gorffennol, gan gynnwys pedwar o'r Cywyddwyr (sef cynnwys Adran II, tt.87-160) ac ymdriniaethau â gwahanol agweddau ar ein llenyddiaeth, megis 'Y Ddrama yng Nghymru' a 'Trem ar Lenyddiaeth y Dadeni Dysg' (sef cynnwys Adran III, tt.161-208), ond hefyd erthyglau ar lenyddiaeth yn gyffredinol, ar waith W. B. Yeats, Pierre Corneille, Henry James ac eraill (sef cynnwys Adran IV, tt.209-258), ac wyth o adolygiadau gan Saunders Lewis (sef cynnwys Adran V, tt.259-292). Y mae Gwynn ap Gwilym yn ei ragymadrodd i'r gyfrol yn sôn am rai o brif nodweddion beirniadaeth lenyddol Saunders Lewis. Un o'r rhain, meddai, 'yw llwyr onestrwydd ei farn', ac yn ddiau y mae'r onestrwydd hwn yn un o gryfderau Saunders Lewis fel beirniad llenyddol. Y mae'n barod i ganmol, Ue y bo canmoliaeth yn ddyledus, ond hefyd i lefaru heb flewyn ar ei dafod pan wêl fod llenor yn mynd ar gyfeiliorn. Ni chais osgoi cydnabod bod canu mawl y Cywyddwyr 'yn fynych