Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

chorff dyn yn perthyn i ddau sylwedd cwbl wahanol, sef sylwedd meddyliol a sylwedd materol. Mae dyn unigol yn berson, a phob person yn gyfuniad rhyfeddol o ddau sylwedd cwbl wahanol, sef corff ac enaid. Os yw'r ddau sylwedd yn gwbl wahanol, sut y gellir esbonio'r math o gyd-weithrediad rhwng corff ac enaid fel a geir yn naturiol ym mhob person 'normal'? Mae dyn yn ewyllysio symud ac mae ei goesau yn ufuddhau i'r gorchymyn. Ar yr ochr arall gall afiechyd y corff ddylanwadu ar natur ein meddyliau, megis mewn iselder ysbryd. Os yw corff ac enaid o sylweddau mor wahanol yn ôl dadl Descartes, sut y gellir esbonio'r cyd-weithrediad yma? Gan fod y cyd-weithrediad yn digwydd, ni ddichon fod y gwahaniaeth rhwng corff ac enaid mor fawr ag a ddadleua Descartes. Dyma ergyd dadl Bernard Williams yn erbyn unrhyw fath o ddamcaniaeth deuoliaeth corff ac enaid, boed honno yn ddadl Descartes am ddeuoliaeth, neu ryw fersiwn arall ar y ddamcaniaeth. Yn yr ail (2) fersiwn o'r ddamcaniaeth ddeuoliaeth dadleuir bod digwyddiadau meddyliol a phob priodoledd meddyliol, yn hollol wahanol o ran ansawdd i bob digwyddiad corfforol, ac i bob priodoledd corfforol neu faterol. Y gwahaniaeth rhwng (1) a (2) yw bod (2) yn gwrthod honiad Descartes fod digwyddiadau meddyliol yn perthyn i sylwedd meddyliol a digwyddiadau corfforol yn perthyn i sylwedd materol. Yn ôl Descartes, y mae popeth yn y cyfanfyd i'w ddosbarthu i un o ddau, a dim ond dau sylwedd, sef sylwedd meddyliol a sylwedd materol, a bod dyn fel person yn gyfuniad o'r ddau, sef enaid a chorff. Dywed Lewis fod yr argyhoeddiad am fodolaeth deuoliaeth corff ac enaid yn rhan o ddysgeidiaeth athronwyr mawr fel Platon, Aristoteles, Descartes a Kant, ond fod ei syniadau ef am ddeuoliaeth corff ac enaid yn ymdebygu yn fwy i syniadau Descartes nag i syniadau'r un o'r athronwyr eraill a enwyd. Ymddengys i mi fod yr hyn a ddywed Lewis yn y llyfr yma yn dangos yn glir nad yw ef yn canlyn Descartes yn glòs iawn o leiaf yn y ffordd y mae yn mynegi ei argyhoeddiad am ddeuoliaeth corff ac enaid. O safbwynt mynegi'r ddamcaniaeth, ymddengys fod Lewis yn coleddu (2) yn hytrach na (1). Beth bynnag am hynny, mae arwyddion eraill yn y llyfr fod ei syniadau am natur yr hunan yn ymdebygu yn agos iawn at rai Descartes. Er bod hynny, fe gredaf, yn wir, fe gawn yr awdur tua diwedd ei lyfr (yn ei drafodaeth o syniadau Wollheim) yn dadlau bod y broblem athronyddol ynglyn â natur yr hunan yn troi o gwmpas asgwrn y gynnen rhwng Kant a Hume. Yma fe ymddengys mai Kant yw'r arwr, ac eto fe wyddom fod Kant wedi beirniadau syniadau Descartes am yr hunan yn llym iawn. Nid oes arnaf eisiau cyhuddo'r awdur o anghysondeb yn y mater hwn, ond fe allai fod wedi mynegi yn gliriach sut y mae Kant yn rhagoriaethu ar Hume, a sut y mae cysoni syniadau Descartes ag athroniaeth Kant am yr hunan. Er bod y ddamcaniaeth ynglyn â deuoliaeth corff ac enaid yn hollol allweddol i syniadau Lewis am natur a pharhad yr hunan, eto prif destun trafodaethau'r llyfr yw natur yr enaid. Gan ein bod wedi crybwyll enw Kant uchod, dylid sylwi bod myfyrwyr athroniaeth yn y colegau sy'n astudio athroniaeth Kant yn ei Critique of Pure Reason yn tueddu i ganolbwyntio ar ddwy ran bwysig o'r llyfr hwnnw, sef y 'Transcendental Aesthetic' a'r 'Transcendental Analytic' ac anwybyddu'r 'Transcendental Dialectic' lle ceir