Trafod yr Hunan TRADDODODD yr Athro Hywel Lewis ddarlithiau Gifford yng Nghaerdin a chyhoeddwyd hwy yn y llyfr The Elusive Mind (1969). Ers hynny, daeth dau lyfr arall o'i eiddo o'r wasg, sef The Self and Immortality (1973) a Persons and Life after Death (1978) yn trafod ymhellach rai o'r syniadau a grybwyllwyd yn yr Elusive Mind. Yn awr, fe â'r drafodaeth gam sylweddol ymlaen drwy gyhoeddi TheElusive SelJ1 sydd yn bennaf yn trafod natur yr hunan a'i barhad. Yn ôl Kant, calon athroniaeth yw metaffiseg a thri phwnc sylweddol metaffiseg yw natur ewyllys rydd dyn, anfarwoldeb enaid dyn, a bodolaeth Duw. Cawn drafodaeth uniogyrchol o'r ail bwnc yn y gyfrol hon, gyda chyfeiriadau at y cyntaf, ac addewid am gyfrol ychwanegol i ddod a fydd yn trafod crefydd a moesoldeb yn wyneb casgliadau dadleuon yr awdur yn y llyfr hwn ynglyn â natur yr hunan neu'r enaid. Mae cynnwys y llyfr hwn yn ymwneud â phroblem fwyaf dyrys athroniaeth. Mae felly yn llyfr sylweddol, yng ngwir ystyr y gair. Nid yn unig y mae'r gwaith yn sylweddol yn yr ystyr ei fod yn ymgodymu â phroblem fwyaf dyrys ac oesol athroniaeth ond mae hefyd yn trafod llu o gyhoeddiadau, yn llyfrau ac yn erthyglau, a gyhoeddwyd gan athronwyr cyfoes ar destun natur yr hunan yn ystod y pymtheng mlynedd diwethaf. Dyma enwau rhai o'r athronwyr hyn-Ryle, Strawson, Bernard Williams, Sidney Shoemaker, Wiggins, Parfit Wollheim, George Ray, J. A. Brook, Don Locke, John Perry, ac un Cymro adnabyddus iawn i ddarllenwyr Y Traethodydd, sef, y diweddar Athro J. R. Jones. Ar y cyfan anghytuno'n frwd a wna Lewis â'r athronwyr hyn gan ddangos, fel rheol yn eithriadol o glir, craff, a phendant,-mae hyn yn arbennig o wir am ei ymdriniaeth â gwaith Parfit, George Ray, Wollheim, Don Locke, a J. R. J ones-sut y maent yn cyfeiliorni yn eu syniadau am yr enaid o'u cloriannu o safbwynt athroniaeth Lewis ar y pwnc. Er mai trafod natur yr hunan yw prifthema'r llyfr, mae'r penodau cyntaf yn ailadrodd argyhoeddiadau'r awdur ynglyn â'r ddamcaniaeth am ddeuoliaeth corff ac enaid, ac yn dadlau ei achos gyda'r rhai, yn bennaf Bernard Williams, sy'n anghtuno ag ef ar y pwnc yma. Deuoliaeth yw'r honiad athronyddol fod yna wahaniaeth sylweddol ('a radical difference in nature' yw geiriau Lewis) rhwng digwyddiadau meddyliol ar y naill law a digwyddiadau corfforol neu faterol ar y llaw arall. Ynglyn â phriodoleddau'r meddwl, gellir gwahaniaethu rhwng digwyddiadau meddyliol (mental events) a thueddiadau neu gyflyrau meddyliol (mental states or dispositions) ond tueddu i anwybyddu'r gwahaniaeth hwn a wna Lewis drwy sôn yn fwy cyffredinol am "mental states or experiences". Nid yw ychwaith yn gwahaniaethu rhwng corff dyn sy'n fyw ac ar un ystyr yn faterol, o gig a gwaed, a rhywbeth marw fel pren bwrdd sydd hefyd yn faterol. Gellir gwahaniaethu ymhellach rhwng o leiaf ddwy ffordd o arddel y syniad o ddeuoliaeth. Cawn yn gyntaf (1) syniad Descartes fod meddwl dyn neu'r hunan neu enaid dyn (yn y trafodaethau athronyddol hyn nid oes ystyr grefyddol i'r gair 'enaid') yn sylwedd hollol wahanol i'r corff, a bod enaid a